Cyngor PR Strategol
Mae gwneud dadansoddiad cywir o’r heriau yr ydych yn eu hwynebu a gosod amcanion addas yn hanfodol ar gyfer creu strategaeth PR effeithiol.Gan ddefnyddio’r arbenigedd sydd gennym yn dilyn gwaith mewn cannoedd o sefyllfaoedd mewn nifer o sectorau gwahanol, gallwn ddarparu cyngor clir a dibynadwy ar y strategaeth sydd ei angen arnoch i gyflawni’ch amcanion.Gallwn roi cymorth i chi ddadansoddi’r tybiaethau cyfredol o’ch cwmni neu sefydliad a chreu cynllun gwaith cynhwysfawr ac effeithiol i drosglwyddo’ch neges i’r rhai yr ydych am eu dylanwadu.Yn fwy na dim, pan ydych yn wynebu sefyllfaoedd sensitif, byddwn yn eich helpu i wneud y penderfyniadau PR cywir er mwyn amddiffyn eich enw da a gwella eich busnes.Caiff ein cyngor ei seilio ar eich anghenion chi yn unig ac mae ar gael 24 awr y dydd. |
|







