Amdanom Ni

Cwmni cyfathrebu annibynol blaenllaw â’i leoliad yng Nghaerdydd yw Working Word, sy’n rhoi cymorth i gleientiaid blaenllaw gysylltu â chynulleidfaoedd a marchnadoedd ledled Cymru a’r DU.
Ers ei sefydlu ym 1999, mae’r cwmni wedi tyfu i fod y mwyaf o’i fath yng Nghymru.  Mae ein tîm proffesiynol a thra chymwys yn cynnwys gweithwyr profiadol y mae eu sgiliau’n rhychwantu amrywiaeth eang o sectorau marchnad.
Seiliwyd ein llwyddiant ar greadigrwydd, cost-effeithiolrwydd a chyflawni amcanion cleientiaid yn gyson.
Gan adeiladu ar y gwasanaethau PR craidd a gynigir, mae Working Word erbyn hyn hefyd yn darparu amrediad eang o wasanaethau cyfathrebu marchnata unigol yn ogystal ag ymgyrchoedd cyfunol grymus.
Daw ein cleientiaid o sectorau amrywiol megis gweithgynhyrchu, addysg, Llywodraeth, yr amgylchedd, manwerthu, gofal iechyd, tai, y gyfraith, telathrebu, adeiladu, bwyd a thwristiaeth.
Bellach, mae dros 30 o enwau ar ein rhestr cleientiaid ond rydym yn ymflachïo’n y ffaith fod 8 o’r 10 cleient cyntaf a ddaeth atom ddegawd yn ôl yn dal i fod gyda ni heddiw. 
Ennillwyd eu ffyddlondeb trwy sicrhau ein bod bob amser yn barod i addasu ac ymateb i’w blaenoriaethau cyfnewidiol nhw gan ddarparu’r datrysiadau cyfathrebu effiethiol maent eu hangen.
Yr agwedd hwn sy’n gyfrifol am y gwobrwyon diwydiant ’rydym wedi eu hennill mor gyson.  Yn wir, mae Working Word wedi ennill mwy o Wobrau Balchder (Pride Awards) Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) nac unhryw asiantaeth arall ym Mhrydain ac yn ddiweddar derbyniasom Wobr clodfawr Rhagoriaeth DU gan CIPR.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig.  ‘Rydym bob amser yn cynghori ein cleientiaid mai cwsmeriaid hapus yw’r arf marchnata gorau, felly beth am gymryd eiliad neu ddwy i ddarllen yr hyn sydd gan ein cleientiaid i’w ddweud amdanom ni.