Gwasanaethau cysylltiadau cyfryngau/swyddfa’r wasg
Mae perthynas waith effeithiol gyda’r cyfryngau’n hanfodol i gwmnïau a sefydliadau sydd am ddylanwadu cynulleidfaoedd allweddol.P’un ai bod hyn mewn print, ar yr awyr neu ar-lein, mae sylw bositif yn helpu dealltwriaeth ac yn rhoi hwb i enw da. Mae’n creu trafodaeth ymysg pobl ac yn lledaenu’r gair amdanoch chi a’r hyn sydd gennych i’w gynnig.Mae ein tîm wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau sylw cyson sydd wedi’i dargedu’n dda yn y cyfryngau ar bob lefel, o gyhoeddiadau lleol i lwyfannau newyddion ledled y DU a chyfryngau allweddol sector-benodol.Trwy ddeall busnes ein cleientiaid, a thrwy greu perthnasau cryfion gyda newyddiadurwyr sydd wedi’u lleoli’n dda, rydym yn cynhyrchu sylw cyson sy’n cael effaith gwirioneddol.Bydd ein gogwydd creadigol yn troi eich stori yn newyddion wnaiff ddenu sylw a gwneud y rhai sydd o bwys yn ymwybodol ohonoch.Gallwn ddylunio ymgyrchoedd a darparu cefnogaeth benodol er mwyn codi’ch proffil ymhlith y cyfryngau dewisedig neu gallwn ddarparu gwasanaeth swyddfa’r wasg gan ymdrin â’ch holl gyswllt â’r cyfryngau.Y naill ffordd neu’r llall, rydym ar gael 24 awr y dydd, gan wneud y mwyaf o bob cyfle ddaw i’ch rhoi mewn safle effeithiol a phositif yn y cyfryngau. |
|







