Brandio

Yn aml iawn eich brand yw’r cyfle cyntaf a gewch i greu argraff ar eich cynulleidfa darged.  Ac ‘rydym i gyd yn ymwybodol o’r hyn a ddywedir am rym yr argraff gyntaf.
Ystyriwch rai o frandiau enwocaf y byd a sylwch fod llawer mwy iddynt na logo yn unig.  Gall eich brand fod yn enw, yn symbol, yn gyfuniad o liwiau, yn slogan neu’n gyfuniad o’r uchod.
’Rydym wedi gweithio ar brosiectau ar gyfer sefydliadau ledled y wlad sydd wedi dod i ddiffinio pwy ydynt a sut y’u gwelir gan eraill.
Tardda’r gair Saesneg ‘brand’ o arfer ffermwyr i serio’u gwartheg â haearn poeth.  Meddyliwch am eich brand chi: ydy e wedi’i serio ar gof eich cwsmeriaid?
Os nad yw, rhowch ganiad i ni neu gadewch nodyn.