Rheoli blog

Un o’r ffyrdd hawsaf o gynyddu llif yr ymwelwyr i’ch gwefan yw blogio. Gall blog fod yn offeryn pwysig iawn mewn marchnata ar-lein.
Nid yn unig fod blogio’n ffordd wych o ddenu ymwelwyr at eich safle, ond mae hefyd yn eithriadol o bwysig wrth adeiladu eich hygrededd a’ch brand, gan eich helpu i ddatblygu ffydd a chydberthynas ymysg eich cynulleidfa darged.
Bydd geirio’r blogiau hyn yn gywir - trwy ddefnyddio’r un allweddeiriau a’ch darpar gwsmeriaid neu fudd-ddeiliaid - yn sicrhau safle brig iddynt ar beiriannau chwilio yn gymharol gyflym a bydd hyn, o ganlyniad, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’ch wefan.
Caiff miliynau o flogiau eu hysgrifennu, ond dim ond nifer fechan a ddarllennir.  Mae’n fwy na mater o gychwyn blog, mae’n ymwneud â datblygu eich llais a’i roi ar led.
Mae gennym ni’r sgiliau i greu a datblygu blogiau bachog a threiddgar, wedi eu seilio ar eich gwerthoedd a’ch natur chi.  Gellir cyfuno hyn gydag ymgyrch o weithgareddau ehangach neu fel gwasanaeth unigol fforddiadwy.
Gallwn helpu troi eich blog yn sbardun wnaiff hybu’ch safle mewn ymchwiliadau organig trwy ddefnyddio ein gwasanaeth dadansoddi allweddair arbenigol. 
Cliciwch yma i wybod sut y gallwn wneud i flogio weithio drosoch chi.
blog