Eisiau i’ch brand neu’ch neges fod ym mhoced eich darpar gwsmer?
Mae’r defnydd o ddyfeisiadau ffôn symudol a ffonau deallus i gyrchu cynnwys ar-lein wedi cynyddu’n enfawr. Ar wahân i’r cyfleoedd i gysylltu â’ch cwsmeriaid pan ydynt yn fan hyn a’r fan draw, mae nifer o lwyfannau gweithredu systemau symudol sy’n galluogi creu a dosbarthu cymhwysiadau unigryw neu ‘apps’, megis yr iPhone/iPad Apple a llwyfanau Google Android. Mae dros 3 biliwn o apps wedi’u lawr lwytho o storfa Apple yn unig, ac mae’r potensial i greu refeniw ac ymwybyddiath yn aruthrol.
Gallwn weithio gyda chi i ddylunio a datblygu cymhwysiadau rhyngweithiol gan wneud yn siŵr eu bod ar gael i’w lawr lwytho trwy’r storfa gymhwysiadau perthnasol. Yn dibynnu ar natur y prosiect, gallant fod am ddim neu’n rhai y mae angen talu amdanynt.
Cliciwch yma i ddarllen am app ‘Womenspire’ y gwnaethom ei ddatblygu ar gyfer Chwarae Tech, yr asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer merched. Ym mis Mawrth 2010, hwn oedd yr app cyntaf i gael ei ddatblygu gan elusen yng Nghymru. Os hoffech rai syniadau creadigol am sut y gall app helpu eich gwerthiannau neu amcanion strwythurol, cysylltwch â ni.
|

|