Marchnata Ar-lein

Hysbysebu talu-fesul-clic

Yn ogystal â natur rad ac am ddim peiriannau chwilio cynhenid, mae amrywiaeth o weithgareddau ar-lein am dâl all yrru pobl at eich gwefan. Gall dolenni noddedig a hysbysebu talu-fesul-clic gynyddu’ch gwelededd ar hyd y we. Gellir targedu a mesur yr holl weithgaredd yma’n drylwyr, gan sicrhau bod eich cyllid yn cael ei reoli’n llym.

Mae gennym brofiad o ddarparu’r ymgyrchoedd hynod reoledig hyn fel rhan o ymgyrch cyfathrebu integredig.

Hysbysebu ar Facebook

Mae gan hysbysebu ar Facebook nifer fawr o fuddion. Gallwch gysylltu â mwy na 500 miliwn o gwsmeriaid potensial, targedu’ch cynulleidfa yn ôl eu hoedran, lleoliad a diddordebau a defnyddio’r botwm “Hoffi” i gynyddu dylanwad eich hysbyseb a chreu cymuned o gwmpas eich busnes. Gallwch hefyd sefydlu cyllid dyddiol sy’n eich bodloni chi. 

Gallwn eich helpu i ddyfeisio cysyniadau creadigol, cynllunio a rhoi ymgyrch Facebook ar waith a rheoli cyllidau.

Marchnata trwy e-bost

Mae marchnata trwy e-bost yn un o’r teclynau cysylltiadau cwsmer a chaffael cwsmer mwyaf pwerus sy’n bodoli. Gallwch drosglwyddo’ch negeseuon yn gyflym a rhad. Mae’n fodd mwy cost-effeithiol o deilwra’ch neges i ddenu gwahanol fathau o gwsmeriaid na marchnata ar bapur – un rheswm pam fod e-bost yn parhau i ddisodli cyfathrebu ar bapur.

Gallwn roi cymorth i chi gynllunio’ch marchnata dros e-bost yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol, wedi’i dargedu’n dda ac yn ddiddorol i’r rhai sy’n ei dderbyn. O gysyniadau creadigol i ddarpariaeth cynnwys a dosbarthiad, gallwn gymryd gofal o bopeth nail ai fel prosiect ynddo’i hun neu fel rhan o raglen gyfathrebu ehangach.

Cysylltwch â ni i ganfod sut y gall marchnata ar-lein roi hwb i’ch gwerthiannau a’ch enw da. 
Online marketing