Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan hynod bwerus i gyfleu neges, hyrwyddo a chysylltu. Mae cynnydd eithriadol ym maint a defnydd y cyfryngau cymdeithasol, gyda Twitter yn tyfu ar raddfa ddigynsail, a phoblogaeth Facebook yn fwy nac un yr UDA.
Mae gwneud defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol bellach yn rhan hanfodol o ymgyrch PR, ac rydym wedi ennill gwobrau’r diwydiant am ein hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol sy’n torri tir newydd.
O offer llyfrnodau cymdeithasol sy’n medru ehangu proffil datganiad i’r wasg, i sefydlu ac atgyfnerthu perthnasau gyda blogwyr dylanwadol yn eich sector, fe gydnabyddom gryn amser yn ôl fod y diwydiant yn newid. Felly, trwy ein tîm o efengylwyr cyfryngau cymdeithasol, rydym yn cynnig arbenigedd heb ei ail yn y maes hwn, nail ai yn ogystal â gweithgarwch PR sy’n bodoli eisoes neu fel prosiect ynddo’i hun.
Dyma rai buddion strategaeth cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’i gynllunio’n dda:
• Gwybodaeth ddofn o’ch cwsmeriaid/budd-ddeiliaid
• Cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau
• Datblygiad hyrwyddo neu gair-ar-dafod
• Mwy o ymwelwyr i’ch gwefan
• Gwelliant mewn safle ar beiriannau chwilio
• Gostyngiad mewn cost
• Gwasanaeth cwsmeriaid mwy effeithiol
Rydym yn cynnig:
Mewnwelediad a monitro
Canfod beth mae pobl yn dweud ac arolygu sut mae hynny’n newid o ganlyniad i’ch sgyrsiau chi.
Strategaeth
Creu strategaeth sy’n cyd-fynd â’ch cynllun marchnata cyfredol ac sy’n creu neges gyson i’r bobl gywir, ar yr amser cywir, yn y llefydd cywir.
Rheoli cymunedau cyfryngau cymdeithasol
Lansio eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol pan fo’r amser yn gywir a rheoli pob cymuned, gan gymryd gofal i amddiffyn eich enw da.
Hyfforddiant ac ymgynghoriad
Bydd strategaeth cyfryngau cymdeithasol da bob amser yn gofyn am rywfaint o gyfraniad mewnol. Byddwn yn darparu’ch staff chi gyda’r holl sgiliau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod eich sgyrsiau ar-lein yn dod yn syth o lygad y ffynnon.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni. Byddwn yn falch o gael trafod sut y gallwn eich helpu gyda’ch strategaeth cyfryngau cymdeithasol.
|

|