Gall gwneud dewisiadau doeth, wrth noddi, wneud gwyrthiau i’ch enw da. Gall noddi ddweud llawer o bethau positif amdanoch wrth gynulleidfaoedd pwysig trwy eich cysylltu gyda sefydliadau neu achosion enwog neu boblogaidd.
Gallwn roi cymorth i chi gael y gwerth gorau o’ch cronfa noddi trwy ddadansoddi’r llwyfannau a’r cynulleidfaoedd perthnasol a thrwy gydweddu cyfleoedd i noddi gyda’ch amcanion.
Byddwn yn eich helpu i negodi’r cytundebau gorau gan sicrhau eich bod yn cael y gwelededd mwyaf o’ch buddsoddiad. Byddwn hefyd yn gweithio gydag unrhyw grŵp y dewiswch eu noddi er mwyn cynyddu gwerth PR y prosiect i’r eithaf.
|

|