Gall enw da gymryd blynyddoedd i sefydlu a munudau’n unig i’w ddifa trwy gyfathrebu gwael mewn argyfwng.
Bydd ein gweithwyr mwyaf profiadol yn eich helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer sefyllfaoedd ble bydd angen i chi weithredu ar unwaith er mwyn amddiffyn eich enw da.
Byddwn yn eich helpu i baratoi ymlaen llaw ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol, gan osod cynlluniau manwl fydd yn sicrhau eich bod yn cyfleu’r negeseuon cywir i’r bobl gywir mewn modd addas.
Fe sicrhawn fod y cysylltiadau priodol gennych yn ogystal â threfn i gyflwyno adroddiadau yn barod i’w defnyddio os digwydd anffawd.
Hyd yn oed os yw argyfwng wedi dechrau datblygu neu eich bod yn wynebu cwestiynau anodd gan y wasg, gallwn gamu i’r adwy gan helpu tawelu’r sefyllfa a chyfyngu’r niwed i’ch cwmni neu sefydliad.
Ac wrth gwrs, mae’r gwasanaeth tyngedfennol hwn ar gael 24 awr y dydd.
|
|