Llenyddiaeth gorfforaethol

Hyd yn oed yn yr oes ddigidol hon, mae pobl yn dal i werthfawrogi’r cyfle i gydio mewn llenyddiaeth gorfforaethol yn eu dwylo.  Gall eich llyfryn gwybodaeth weithredu fel aelod gwirioneddol o’ch tîm; gan egluro’r hyn sydd gennych i’w gynnig i’r farchnad  ac ehangu eich negeseuon allweddol.
Mae llyfryn gwybodaeth yn meddu ar y fantais ychwanegol o fedru cael ei adael gyda neu ei ddanfon at eich cynulledifaoedd, a’i ddefnyddio ganddynt fel cyfeirlyfr i’ch sefydliad.  O gofio hyn, mae’n bwysig bod ei gynnwys, ei edrychiad a’i naws yn taro deuddeg.
Mae gan ein tîm creadigol brofiad helaeth gyda llenyddiaeth gorfforaethol o bob math, o lyfrynnau gwybodaeth i adroddiadau blynyddol.  Gadewch i ni greu’r ddelwedd gywir ar eich cyfer chi.  
corporate literature