Beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanom…

"Rydym ni yn Chwarae Teg yn gwerthfawrogi pwysigrwydd PR o safon ac rydym yn gwybod bod angen cydweithio gydag asiantaeth PR effeithiol os am lwyddo. I ni, dyna’n union yw Working Word. Maent yn weithgar iawn yn eu hagwedd ac yn chwilio’n ddiflino am gyfleodd ar ein cyfer ar bob llwyfan. Mae hyn yn caniatáu i Chwarae Teg gymryd mantais o’r cyfleoedd niferus yn y cyfryngau sy’n helpu hyrwyddo ein gwaith. Yn bwysig, roedd hyn o gymorth mawr wrth ddatblygu a gweithredu’r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol hynod lwyddiannus ac arloesol, Womenspire. Mae Working Word yn darparu gwasanaethau PR proffesiynol, deallus ac ystyrlon sy’n werthfawr iawn i Chwarae Teg”. 

John Jackson, Rheolwr Marchnata, Chwarae Teg

"Yn ystod y 3 blynedd yr ydym wedi bod yn gweithio gyda Working Word, mae ein gwerthiannau wedi cynyddu dros 40% ac mae’r tîm wedi gwneud cyfraniad anferthol i’n twf trwy gynyddu ein presenoldeb a’n cyfathrebu gyda’n marchnad darged. Maent yn cymryd pwyll i ddeall ein busnes a’n hamcanion ac yn ein helpu i’w cyflawni trwy ba bynnag fodd sy’n addas, gan gynnwys cyngor ar safle, sylw rhagorol yn y wasg fasnachol, strategaeth cyfryngau cymdeithasol, a chynllunio marchnata. Mae’r sylw yr ydym yn ei gael, a dweud y gwir, yn anhygoel i gwmni o’n maint ni, ac yn aml rwy’n cael sylwadau twymgalon gan gwsmeriaid am erthyglau yn y wasg. Rwy’n credu bod Working Word yn gofalu am ein busnes, ac maen nhw’n rhan bwysig o’n tîm a byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sydd eisiau i’w busnes dyfu.” 

Allan Meek, Rheolwr Gyfarwyddwr, SCS Group 

"Ers i mi gyflogi Working Word, rwyf wedi gweld cynnydd sylweddol ym mhroffil y cwmni a ninnau fel partneriaid unigol. O’m profiad i, meant yn adweithiol, yn greadigol ac wedi dod i ddeall ein diwylliant a’n safle yn y farchnad yn gyflym. Mae PR erbyn hyn yn rhan hanfodol o’n cymysgedd farchnata.”

Steve Sulley, Partner Marchnata, Cyfrifwyr Siartredig UHY Peacheys 

"Fe wnaethom ddenu mwy o gystadleuwyr na DEFRA yn Lloegr oedd yn rhedeg y gystadleuaeth ar yr un pryd, ac roedd hyn, ar y cyfan, oherwydd cryfder y sylw gan y wasg a gynhyrchwyd. Trwy drefn a chreadigrwydd Working Word gyda’r digwyddiad lansio ble ddatguddiwyd y buddugwyr i’r wasg, sicrhawyd diddordeb ymysg pob un o’r cyfryngau gan gynnwys darlledu trwy’r dydd. Daeth cyfweliadau byw ac wedi’u recordio gyda’n buddugwyr â sylw iddynt o dros Gymru gyfan. Mae Working Word wedi bod yn broffesiynol, yn greadigol a hynod weithgar trwy gydol y project. Nid oes wythnos yn mynd heibio heb i ni weld erthygl neu dudalen we lle cafwyd sylw."

Uwch Swyddog Cyfathrebu, prosiect 'Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd’, Llywodraeth Cynulliad Cymru

"Mae’r berthynas ddiymhongar a phroffesiynol y mae Working Word wedi’i sefydlu gyda’n gofalwyr a’n staff wedi bod yn amhrisiadwy wrth sicrhau’r astudiaethau achos perthnasol a chyfathrebu mewnwelediadau allweddol a buddiannau mynd yn riant maeth. Rydym yn parhau i gyrraedd targedau sydd y tu hwnt i’n hamcanion gwreiddiol o ran cyhoeddusrwydd, cael sylw lleol a chenedlaethol mewn amrywiaeth eang o gyhoeddiadau, newyddion ar y teledu a slotiau radio. Mae Working Word wedi darparu gwasanaeth PR eithriadol o broffesiynol, cost effeithiol a chyfeillgar; cymaint felly bod ein gwariant gwreiddiol ar PR o fewn ein cyllid marchnata wedi ei dreblu.” 

Rheolwr Marchnata, Pathway Care

"Mae’r brwdfrydedd a’r ymroddiad a gefais gan fy  nhîm cyfrif yn Working Word wedi bod heb ei ail. Mae gan Working Word dalent am addasu i newidiadau mewn gofynion ac am feddwl ar eu traed, ac yn sicr mae eu bys yn gadarn ar y pỳls wrth adweithio i’r pwnc llosg diweddaraf yn y wasg neu wrth sbarduno syniadau newydd i gyrraedd y newyddion. Maent wedi llwyddo i gael sylw ymhell y tu hwnt i’r hyn y byddai ein cyllid hysbysebu’n medru ei gyflawni petai’n ymdrechu i gael yr un faint o sylw. Rwy’n argyhoeddedig mai un o’r ffactorau yn ein llwyddiant parhaus i wrthsefyll y ddrycin economaidd hon yw’r sylw PR rhagorol yr ydym wedi elwa ohono ledled de Cymru, Surrey & Sussex, mewn cyhoeddiadau defnyddwyr yn ogystal â’r wasg fusnes genedlaethol. 

Rheolwr Marchnata, Sigma 3 Kitchens