Mae cysylltiadau cyhoeddus yn rhan annatod o gyfathrebu am fod eich enw da a’ch perthynas gyda chwsmeriaid, budd-ddeiliaid a phobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau yn hanfodol i lwyddiant eich busnes.
Working Word yw tîm asiantaeth PR mwyaf Cymru am ein bod yn llwyddo i ddarparu rhaglenni sy’n gyson yn cael effaith gwirioneddol ar yr enw da a’r perthnasau hynny.
Gall ein staff proffesiynol adrodd eich hanes yn effeithiol a bythgofiadwy trwy eu defnydd deheuig a phenodol o dechnegau PR amrywiol.
P’un ai ydych angen cefnogaeth tymor byr i drosglwyddo neges benodol, neu ymgyrch hir hoedlog a chymhleth i drawsnewid barn ac ymddygiad, mae ein tîm gwobrwyedig yn meddu ar yr arbenigedd i sicrhau’r canlyniadau.
Rydym yn cynnig gwasanaethau unigol, megis cysylltiadau â’r wasg neu ysgrifennu copi, neu ymgyrchoedd cyflawn sy’n cynnal pob agwedd o’ch cyfathrebu corfforaethol.
Gall ein tîm hyblyg ychwanegu gwerth nail ai trwy weithredu fel eich adran PR gwirioneddol neu trwy ddarparu cefnogaeth arbenigol ychwanegol i’ch tîm PR mewnol chi.
Cliciwch isod am restr o’r gwasanaethau Cysylltiadau Cyhoeddus yr ydym yn eu cynnig:
Os oes gennych ymholiad, gwestiwn neu benbleth am PR, cliciwch yma i gysylltu â ni. Byddwn yn falch o glywed gennych.
|

|