Materion Cyhoeddus

Trosglwyddo'ch neges i'r penderfynyddion

Oes arnoch angen cyfathrebu eich neges yn effeithiol i benderfynyddion o fewn llywodraeth leol, genedlaethol neu’r Cynulliad? Oes angen gwrandawiad arnoch gan y rhai sy’n cyfrannu at wneud penderfyniadau gwleidyddol? Gallwn ni eich helpu.
Rydym yn trefnu datganiadau, ymgynghoriadau cyhoeddus, trafodaethau fforwm agored, a llwyfannau eraill sy’n galluogi i gwmnïau a sefydliadau gael eu clywed ble mae’n cyfrif.
Mae gan ein tîm brofiad eang o gynllunio a gweithredu ymchwil, cysylltu â budd-ddeiliaid, cyfathrebu strategol, a rhaglenni ar gyfer cyswllt allweddol a digwyddiadau gwleidyddol. 
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth arolygu a dadansoddi cyflawn, ble rydym yn gweithredu fel llygaid a chlustiau i chi mewn byd gwleidyddol sy’n dod yn fwyfwy cymhleth ac aml-haenog.
Gyda phrosiectau priodol, rydym yn cydweithio gyda’r uwch ymgynghorydd Materion Cyhoeddus dwyieithog, Marc Evans, sy’n meddu ar brofiad o dros 20 mlynedd ar lefel cyfarwyddwr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn dilyn swyddi darlledu gyda BBC Radio, HTV ac S4C bu’n gweithio fel aelod o staff uwch ac yn llawrydd ym meysydd ymgynghori PR, materion cyhoeddus a’r cyfryngau. Mae hyn yn cynnwys ei rôl fel Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Bwrdd Croeso Cymru gynt. 
Beth bynnag fo’ch anghenion, gallwn sicrhau bod eich neges yn cael ei glywed yn uchel a chlir ymysg y rhai sy’n cyfrif. Cysylltwch â ni yma i ganfod sut. 
public affairs