Tim Haughton, Cyfarwyddwr Creadigol
Cychwynnodd Tim ar ei yrfa wrth weithio ar ffilm animeiddio hir gyntaf Cymru gan fynd ymlaen i swyddi rheolaethol a chreadigol mewn nifer o asiantaethau hysbysebu yn ne Cymru.
Mae wedi mwynhau ymgymryd ag ymgyrchoedd a phrosiectau cenedlaethol sy’n amrywio o eiconau brand, llyfrynnau corfforaethol, ffilm, animeiddio, pecynnu a dylunio ar gyfer nofelau comic graffig. Mae hefyd wedi mwynhau ymgynghori ar ddylunio i’r myfyrwyr dylunio ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae arbenigedd Tim mewn dylunio, hysbysebu, ffilm, y cyfryngau a chyfryngau digidol yn cael ei bwysleisio trwy ei waith i gylchgrawn y diwydiant ffilm sef, Factory, a Vogue a Campaign. Mae Tim yn rhan annatod o’r tîm ac mewn trosglwyddo ein geiriau ni yn weledigaethau.
Lawr lwytho manylion cyswlltGair bach yn eich clust
Mae Tim yn chwaraewr-reolwr Red Star Blokomotiv FC ac yn mwynhau dim yn fwy na smalio chwarae pêl-droed. Fel y mae pawb yn boenus o ymwybodol, sefyll wrth y llinell yn yfed coffi y mae gan amlaf, yn bloeddio ei gefnogaeth - fel pe bai ganddo unrhyw ddylanwad dros y canlyniad.


















