Ein Tîm
Ein Tim

Sara Robinson - Cyfarwyddwr Cyfrifon

Mae Sara yn rhugl ei Chymraeg, ac mae wedi gweithio yn y cyfryngau a chyda nhw am fwy na deng mlynedd. Mae'n mwynhau gweithio'n agos gyda chleientiaid i gyflawni eu hamcanion cyfathrebu ac i sicrhau sylw a phroffil lle mae'n cyfrif.  

Dechreuodd Sara ei gyrfa'n gweithio i bapur newydd Cymraeg wythnosol cyn treulio pum mlynedd yn gweithio ar dîm cynhyrchu un o ddarlledwyr mwyaf Cymru, yn gweithio ar raglenni newyddion dyddiol a rhaglenni dogfennol ar gyfer S4C, BBC Two Wales, Channel 4, Channel 5 a darlledwyr rhyngwladol. Yn 2003, fe ymunodd â chorff amgylcheddol cenedlaethol fel Cydlynydd Cysylltiadau Cyhoeddus y DU. Ers hynny, mae Sara wedi ennill cyfoeth o brofiad, gan gynnwys rôl mewn ymgynghoriaeth fawr ei pharch yn Llundain.

Mae ei chleientiaid yn rhychwantu'r sectorau preifat a chyhoeddus, ac maen nhw wedi cynnwys brandiau sy'n gyfarwydd i bawb yn y sector bwyd a diod, cymdeithasau masnach, asiantaethau cefnogi busnes ac adeiladwr tai cenedlaethol.  

Mae Sara wedi arwain saith ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus, masnach ac elusen sydd wedi ennill gwobrau ers ymuno â Working Word PR yn 2005, gan gynnwys Gwobr Fawr Llywydd y DU y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus am ymgyrch sedd car i blant yn 2006 a gyflenwyd ar ran adran drafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Rhyngoch chi a minnau: Mae Sara yn frwd dros gerddoriaeth ac uchafbwynt ei gyrfa oedd cyfweld sêr Motown, sef Mary Wilson o’r Supremes a Martha Reeves o’r Vandellas. Hi sy’n gyfrifol hefyd am gerddoriaeth aros ar y ffôn Working Word!