Mari Waddington - Cyfarwyddwr Cyfrifon
Mae Mari'n weithiwr proffesiynol eang ei phrofiad sydd wedi disgleirio mewn amryw o rolau ymgynghoriaethau cysylltiadau cyhoeddus a rolau mewnol ar lefel Cymru a'r DU, yn cyflenwi ymgyrchoedd ar ran y sector cyhoeddus a'r sector preifat fel ei gilydd. Mae ganddi brofiad penodol ym meysydd datblygu economaidd a dysgu a sgiliau trwy weithio ar raglenni ar gyfer y WDA, Llywodraeth y Cynulliad (Anelu'n Uwch Cymru), y sector addysg bellach a City & Guilds. Yn achos City & Guilds, fe ddarparodd wasanaeth briffio a chyngor strategol mewn amgylchedd wleidyddol sensitif. Mae wedi gweithio'n agos gyda gweinidogion, aelodau etholedig a swyddogion llywodraeth ganolog a datganoledig, yn ogystal ag amrywiaeth o randdeiliaid. Mae Mari, sy'n rhugl ei Chymraeg, wedi ennill sawl gwobr genedlaethol am ei gwaith.
Mae Mari yn Aelod o'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR), ac mae hefyd yn meddu ar Ddiploma Ôl-raddedig sydd wedi'i achredu gan y CIPR o Ysgol Newyddiaduriaeth Prifysgol Caerdydd.
Rhyngoch chi a minnau: Daw Mari o dras Sipsiwn, ac un tro, pan oedd yn cael cinio yn y Wolseley, roedd ar y bwrdd nesaf at Wayne a Coleen Rooney, a oedd yn gwisgo plisg-wisgoedd.







