Marc Evans - Ymgynghorwr Materion Cyhoeddus
Caiff gwasanaeth materion cyhoeddus Working Word ei arwain gan Marc Evans, ein uwch ymgynghorwr Materion Cyhoeddus dwyieithog, a chanddo dros ugain mlynedd o brofiad i lefel cyfarwyddwr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae wedi bod yn cynghori ei gydweithwyr yn Working Word a chleientiaid ar faterion sy'n wleidyddol sensitif gan weithio gyda nhw er mwyn greu a chyflwyno rhaglenni sy'n eu galluogi i ryngweithio'n effeithiol gyda'r sector gyhoeddus a grwpiau o fudd ddalwyr.
Wedi gweithio fel darlledwr gyda BBC Radio, HTV ac S4C, aeth ati i gynnal swyddi staff uwch a rhydd gyfrannol mewn PR, materion cyhoeddus ac ymgynghori cyfryngol. Mae hyn yn cynnwys ei rôl fel Pennaeth Cyfathrebu gyda'r Bwrdd Croeso Cymru gynt.
Mae Marc yn gyn-gadeirydd CIPR Cymru/Wales ac yn aelod gweithgar o Cyswllt (Cymdeithas Gweithwyr Cyfathrebu Proffesiynol Cymraeg eu hiaith).
www.civitascymru.co.uk







