Ein Tîm
Ein Tim

Liz Ashton - Rheolwr Cyfrifon

Liz Ashton
 

 

Mentrodd Liz i faes cysylltiadau cyhoeddus yn 2007, ar ôl gyrfa gynnar fel newyddiadurwraig yn gweithio ar nifer o bapurau newydd wythnosol yn ne Cymru.

Yn ystod ei hamser fel gohebydd crwydrol, fe gasglodd Liz restr helaeth o gysylltiadau mewn amrywiaeth o sectorau, ac mae'n hynod hyddysg yn ffordd y cyfryngau Cymreig a chenedlaethol o weithio.

Enillodd Liz radd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yna enillodd Ddiploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol De Montford yng Nghaerlŷr.

Mae gan Liz wybodaeth drylwyr o'r sector addysg yn arbennig, ac mae ei phortffolio cleientiaid yn cynnwys APADGOS (Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru), NIACE Dysgu Cymru a darparwr hyfforddiant yn y gwaith, ACT.

 

Rhyngoch chi a minnau: Mae Liz, sy’n hynod ffit, yn rhedwr brwd ac yn Is Gapten Clwb Rhedeg Les Croupiers, sef clwb rhedeg mwyaf Cymru. Mae Liz yn mwynhau gosod heriau newydd i hi ei hun, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn dysgu i siarad Almaeneg ac Eidaleg.