Ein Tîm
Ein Tim

Kate Parsons - Ymgynghorwr Digwyddiadau

Treuliodd Kate wyth mlynedd, hyd at fis Tachwedd 2003, fel Rheolwr Marchnata ar gyfer y Cynghorau Hyfforddiant a Menter ac ELWa yng Nghymru. Mae ganddi flynyddoedd o brofiad mewn rheoli digwyddiadau o bob math a maint, gan gynnwys seminarau, cynhadleddau, rhwydweithiau busnes, ciniawau a seremonïau gwobrwyo. Mae ei phrofiad mewn rheoli ymgyrchoedd marchnata strategol yn amrywio o hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau i farchnata a rheoli delfrydau corfforaethol.