Ginny Osborne, Rheolwr Ariannol 

Mae Ginny wedi bod yn aelod o dîm Working Word ers ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl, a phan ymunodd â’r cwmni roedd eisoes yn meddu ar ddeng mlynedd a mwy o brofiad gyda dau o asiantaethau PR mwyaf blaenllaw de Cymru. Cyn gweithio ym maes PR roedd Ginny’n darparu cefnogaeth ariannol ac ysgrifenyddol i amrywiaeth eang o gleientiaid o economyddion i beirianwyr ac o ddylunwyr graffig i dai ffasiwn.

I ddechrau, astudio Celf wnaeth Ginny yn ysgol Arlunio a Chelf Gain Ruskin yn Rhydychen, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr Cyhoeddiadau Economaidd CSP.

Mae Ginny wrth ei bodd yn teithio ac mae wedi treulio cyfnodau’n teithio’r byd ers ei hugeiniau. Yn ystod ei theithiau mae wedi gweithio fel prif ‘candy bar girl’ mewn sinema, padellu am aur, ffawdheglu o gwmpas Siapan ac wedi gwrthod cais i fynd yn PA i seren Perry Mason ac Ironside, Raymond Burr, pan oedd hi’n byw yn LA.

Lawr lwytho manylion cyswllt

Gair bach yn eich clust

 

Mae gan Ginny ben-gliniau bionig a does ganddi fawr i’w ddweud am y bwyd ar y rheilffordd Traws Siberia. 

Bethan Davies, Uwch Rheolydd Cyfrifon Andy Green, Associate Director Tim Haughton, Cyfarwyddwr Creadigol Caroline Holmes,  Cyfarwyddwr Eoghan Mortell Rheolwr Gyfarwyddwr Rachel Mortell, Uwch Gweithredwr Cyfrifon Sophie Spooner, Rheolydd Cyfrifon Daniel Tyte Cyfarwyddwr David Wilkinson, Gweithredwr Cyfrifon
Ginny Osborne, Rheolwr Cyllid Aled Gamble, Gweithredwr Cyfrifon Victoria Leyton Senior Account Executive