Ein Tîm
Ein Tim

Daniel Tyte - Cyfarwyddwr Cyfrifon

Daniel Tyte

Ar ôl cwblhau ei radd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl, cafodd Daniel ei brofiad cynnar mewn rolau ym maes cyhoeddi a newyddiaduriaeth adloniant ar lannau Mersi ac yn Ne Cymru.  Fel newyddiadurwr ar gyfer cylchgrawn cerddoriaeth cenedlaethol, fe deithiodd Daniel i bob cwr o'r byd yn cyfweld sêr roc cyn symud i faes cysylltiadau â'r wasg a chysylltiadau cyhoeddus. Mewn rolau blaenorol gydag asiantaethau, mae Daniel wedi rheoli cyfathrebu ar gyfer cleientiaid mewn meysydd mor amrywiol â chwaraeon proffesiynol, cerddoriaeth bop, eiddo, diodydd meddwol a thechnoleg werdd, gan ennill cydnabyddiaeth yn y diwydiant am ei ymgyrchoedd yng ngwobrau PRide y CIPR. Fe ymunodd â Working Word ym mis Tachwedd 2007, ac mae'n rheoli ystod o gleientiaid y sectorau cyhoeddus a phreifat.  

Rhyngoch chi a minnau: Yr agosaf y daeth Dan at gael lle yn chwarae i’w arwyr pêl-droed, Dinas Caerdydd, oedd bod yn godwr peli pan oedd yn fachgen bach.