Caroline Holmes, Cyfarwyddwr Cyfrifon

Ymunodd Caroline â Working Word ar ôl treulio cyfnod gyda thîm PR mewn Cyngor Sir, a bron i dair blynedd gydag asiantaeth PR a marchnata yng Nghaerddydd.  Mae Caroline wedi creu a rheoli rhaglenni cyfathrebu creadigol ar gyfer rhai o frandiau enwocaf y DU yn ogystal â datblygu gwybodaeth arbenigol am y diwydiant adeiladu a’r diwydiant eiddo.  Mae wedi gweithio ar sawl ymgyrch integredig lle defnyddiwyd PR, marchnata, hysbysebu a datblygu brand.

Mae gan Caroline ddiploma ôl-radd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau o Brifysgol Caerdydd yn ogystal â gradd BA (Anrhyd) mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu ac mae’n aelod o Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus.

Lawr lwytho manylion cyswllt

Gair bach yn eich clust

Mae Caroline yn ymfalchïo yn ei hetifeddiaeth ogleddol ac mae’n mynnu bwyta pwdin Swyddd Efrog yn y modd cywir- sef, fel cwrs cyntaf gyda grefi.  Pan oedd yn ferch ifanc mynychodd wersi drama gyda Kimberly Walsh o Girls Aloud, ond nid yw’n eiddigeddus o’i llwyddiant o gwbl!

Bethan Davies, Uwch Rheolydd Cyfrifon Andy Green, Associate Director Tim Haughton, Cyfarwyddwr Creadigol Caroline Holmes,  Cyfarwyddwr Eoghan Mortell Rheolwr Gyfarwyddwr Rachel Mortell, Uwch Gweithredwr Cyfrifon Sophie Spooner, Rheolydd Cyfrifon Daniel Tyte Cyfarwyddwr David Wilkinson, Gweithredwr Cyfrifon
Ginny Osborne, Rheolwr Cyllid Aled Gamble, Gweithredwr Cyfrifon Victoria Leyton Senior Account Executive