Caroline Challoner - Events Consultant
Mae gan Caroline 22 mlynedd eithriadol o brofiad mewn Marchnata a Rheoli Digwyddiadau. Mae wedi cynnal swyddi uwch reoli yn y sector gyhoeddus a phreifat gan reoli digwyddiadau a phrosiectau cymhleth. Mae'n meddu ar sgiliau rheoli pobl heb eu hail ac mae ganddi'r gallu i ddod â rhagoriaeth a brwdfrydedd eraill ynghyd er mwyn sicrhau safon uchel a chanlyniadau creadigol. Mae ei gyrfa'n cynnwys swyddi gwerthu, marchnata a rheoli yn y diwydiant diodydd, twristiaeth, cyhoeddi, asiantaethau cynnal busnesi, a Chynghorau Hyfforddiant a Menter (TECs). Yn rhinwedd ei swydd fel Pennaeth Marchnata a Chyfranogi gydag Elwa sicrhaodd ddealltwriaeth gyflawn o'r prif flaenoriaethau o fewn datblygu economaidd a dysgu.







