Bethan Davies, Rheolwr Cyfrifon
Ymunodd Bethan â Working Word yn dilyn cyfnod yn gweithio fel Swyddog y Wasg i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ble’r oedd yn rhannu ei hamser rhwng yr adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Adran Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (ABADGOS).
Ar ôl cwblhau gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Ffilm ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, gweithiodd Bethan yn adrannau hysbysebu a chynhyrchu S4C, y BBC ac yn y sector annibynnol. Yn 2006 cwblhaodd ddiploma ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Cylchgrawn ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn symud i Lundain i weithio mewn swydd rheoli digwyddiadau.
Wedi iddi weithio mewn swyddfa’r wasg brysur fel rhan anhepgor o garfan oedd yn arwain y cyfathrebu trwy Gymru gyfan yn ystod ffliw’r moch gan ymdrin ag ymholiadau adweithiol i’r wasg, mae Bethan yn ffynnu mewn sefyllfaoedd rheoli argyfwng.
Lawr lwytho manylion cyswlltGair bach yn eich clust
Mae Bethan yn gic-focswraig ac wrthi’n gweithio tuag at ei gwregys brown.


















