Bethan Davies - Rheolwr Cyfrifon
Ymunodd Bethan â Working Word PR yn dilyn cyfnod fel swyddog y wasg i Lywodraeth Cynulliad
Cymru. Yno, cai ei hamser ei rannu rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phlant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Yn dilyn cwrs gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Ffilm ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, sefydlodd Bethan ei gyrfa ym myd hysbysebu a chynhyrchu gan weithio i S4C, y BBC a'r sector annibynnol. Yn 2006, derbyniodd Bethan ddiploma mewn Newyddiaduraeth Cylchgrawn o Brifysgol Caerdydd, cyn symud i Lundain i weithio fel rheolwr digwyddiadau.
Yn Working Word, mae gan Bethan, sy'n rhugl yn y Gymraeg, restr o gleientiaid sy'n cynnwys enwau adnabyddus o'r sector gyhoeddus a phreifat yn ogystal â sefydliadau nid-am-elw, gan gynnwys adran addysg y llywodraeth, S4C a Seren.
Yn rhinwedd ei swydd fel aelod canolog o'r tîm arweiniodd y cyfathrebu ledled Cymru yn ystod ffliw'r moch, bu disgwyl i Bethan ymateb i nifer helaeth o ymholiadau adweithiol gan y wasg. Wedi'r profiad o weithio yn y swyddfa wasg brysur honno mae Bethan yn sicr wedi profi ei bod yn ffynnu ym maes CC rheoli argyfwng, ac mae'n mynd at i ddatblygu hyn yn Working Word.
Mae Bethan yn gicbaffwraig (kickboxer) brwd ac wrthi'n hyfforddi ar gyfer ei gwregys brown.







