Andy Green, Cyfarwyddwr Cysylltiol

Yn ffigwr blaenllaw yn y diwydiant, ffurfiodd Andy ei gwmni ymgynghorol gwobrwyedig ei hun yn Swydd Efrog ac mae’n darlithio ledled y byd ar gyfathrebu brand creadigol.  I Working Word, mae’n datblygu amrywiaeth ehangach o gynnyrch a gwasanaethau newydd gan gynnwys gweithdai stori brand a naratif, creu brand a strategaeth. Graddiodd Andy o Brifysgol Abertawe. 

 Mae’n Gymrawd Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus ac ef yw awdur y llyfr ‘Creativity in Public Relations’ sydd erbyn hyn ar ei bedwerydd argraffiad ac wedi’i gyfieithu i wyth iaith.  Mae Andy hefyd wedi ysgrifennu ‘Effective Personal Communications Skills for Public Relations’ sy’n cynnwys y cysyniad a ddyfeisiodd ef, sef ‘cast-frandio personol’.

Lawr lwytho manylion cyswllt

Gair bach yn eich clust

Milltir sgwâr wreiddiol Andy yw ochr ddwyreiniol Llundain. Anffawd hyn yw’r ffaith ei fod wedi ei fagu i gefnogi tîm pêl-droed West Ham United. Serch hynny mae ganddo ymhoniad anarferol iawn, sef ei fod wedi rhoi clec i bêl griced o dan yr Afon Tafwys!  

Bethan Davies, Uwch Rheolydd Cyfrifon Andy Green, Associate Director Tim Haughton, Cyfarwyddwr Creadigol Caroline Holmes,  Cyfarwyddwr Eoghan Mortell Rheolwr Gyfarwyddwr Rachel Mortell, Uwch Gweithredwr Cyfrifon Sophie Spooner, Rheolydd Cyfrifon Daniel Tyte Cyfarwyddwr David Wilkinson, Gweithredwr Cyfrifon
Ginny Osborne, Rheolwr Cyllid Aled Gamble, Gweithredwr Cyfrifon Victoria Leyton Senior Account Executive Jonathan Ellis Account Manager Sioned Horton-Evans Account Executive