01/08/11
Creu hanes yr haf hwn gyda Casgliad y Werin Cymru
Rhwng mis Ionawr a Medi llynedd, treuliodd ymwelwyr o’r DU bron i 30 miliwn o nosweithiau yng Nghymru yn ôl arolwg twristiaeth diweddar, gan wario £1,237 miliwn. Nawr, mae ymwelwyr a thrigolion yn cael eu hannog i rannu eu hatgofion a lluniau arlein ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan gyfoes, ddwyieithog yn arbennig ar gyfer rhannu hanes a phrofiad Cymru a’i phobl â gweddill y byd. Mae’r Casgliad yn tyfu bob dydd ac yn adnodd i bobl Cymru ddysgu am eu hanes, a gall unrhyw un ychwanegu at y casgliad mewn sawl gwahanol fformat.
Mae bron i 30,000 o eitemau – o hen luniau i straeon fideo – yn y Casgliad erbyn hyn. Mae llwytho eitem i Gasgliad y Werin Cymru’n hawdd, dim ond tri cham syml sydd i’r broses. Ewch i’r hafan, creu cyfrif a chyfrinair, a llwytho’ch eitem i’r wefan. Yna bydd eich atgofion am wyliau i’w gweld ar y wefan.
Y gobaith yw y bydd pawb, o gyn-weithwyr y cotiau coch yn Butlins y Barri a Phwllheli i’r gantores Katherine Jenkins yn llwytho’u cynnwys i’r wefan er mwyn ceisio dal drych at wyliau a hamddena yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Roedd gwersylloedd Butlins yn gyrchfannau gwyliau arbennig o boblogaidd yn eu hamser, gyda lle i dros 13,000 o bobl ar eu hanterth. Cefnogodd y fezzo-soprano o Gastell-nedd fae prydferth y Three Cliffs ym Mhenrhyn Gŵyr mewn cystadleuaeth deledu ar ITV i ddod o hyd i olygfa orau Prydain. Ac mae Port Einon, traeth arall ym Mhenrhyn Gŵyr hefyd wedi ennill gwobr hoff draeth Prydain yn ddiweddar.
Byddai eitemau sy’n dangos sut beth oedd gwyliau yn y cyrchfannau hyn, ac ym mhob cwr o’r wlad, yn cyfoethogi Casgliad y Werin, casgliad sy’n eiddo i bobl Cymru ac sy’n cael ei ddatblygu gan bobl Cymru. Mae croeso cynnes i bob deunydd sy’n ymwneud â gwyliau yn y Casgliad.
Meddai Rheinallt Ffoster-Jones o Gasgliad y Werin: “Eiddo’r bobl yw Casgliad y Werin a bydd yn parhau i dyfu a gwella wrth i fwy a mwy o bobl chwarae rhan yn ei ddatblygiad.
“Mae eitemau am wyliau’r Cymry a gwybodaeth am eu harferion hamddena dros y blynyddoedd yn werthfawr iawn. Mae Cymru’n ardal o harddwch naturiol eithriadol ac yn enwog drwy’r byd. Gall ffotograffau ein helpu i sylwi ar newidiadau yn y math o ymwelydd, gweithgareddau hamdden a busnesau a hefyd newidiadau economaidd, diwylliannol a newidiadau mewn agwedd.”
Os ydych chi’n ymweld â’r wlad yn gyson, neu’n byw yn yr ardal ac wedi gweld esblygiad twristiaeth yma, ac yn meddu ar ffotograffau o hafau’r oes a fu, yna gall eich cyfraniad chi ein helpu i ddeall Cymru a’i hanes.
Am ragor o wybodaeth ac i lwytho’ch eitemau i Gasgliad y Werin Cymru, ewch i www.casgliadywerincymru.co.uk
Mae Casgliad y Werin Cymru yn broject ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru.
For further information on this press release, please contact Working Word and ask to speak to a PR consultant.
Working Word is a full service communications and PR/public relations company based in Cardiff which represents a number of public sector and business clients. Working Word provides public relations consultancy for fast growing companies in Cardiff, Swansea, Newport, Bristol along the M4 corridor of England and across south Wales.
Our public relations and communications services are provided from our central Cardiff office in Southgate House, located adjacent to Trinity Mirror’s Media Wales news headquarters. Conveniently located near to Cardiff Bay and Cardiff city centre, our offices are available for client use when required. We are home to the largest operational PR team in Wales and are the current - and second-time - holders of the CIPR (Chartered Institute of Public Relations) ‘Outstanding PR Consultancy in Wales’ award.
Our in-house graphic designer enables us to offer graphic design, website design, advertising, branding and marketing solutions.
Our social media consultancy division has helped clients scoop awards for their ground-breaking efforts in harnessing digital media to communicate with their audiences online. We also provide search engine optimisation services to ensure our clients achieve the SEO results they need using organic search keyword strategies. The best thing is, we provide all of these services as a seamless, integrated communications package with one point of contact. We get to know you, then make sure your audiences get to know you better.
Please contact our Cardiff public relations office for more information on PR campaigns.






