06/09/10
Ieuenctid Cymru’n gwella eu sgiliau drwy ddweud eu dweud
Cafodd Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ei ddatblygu ar y cyd gan Agored Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau y bydd pobl ifanc o bob oedran yn cael digon o gynrychiolaeth yn eu cymunedau.
Mae’r achrediad yn ceisio nerthu plant a phobl ifanc drwy roi rhan iddyn nhw mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a thrwy gydnabod sut y mae bod â rhan yn y broses o benderfynu’n datblygu eu sgiliau.
Mae’r achrediadau’n cael eu gweinyddu drwy gyrff penderfynu presennol pobl ifanc, megis cynghorau ysgolion, grwpiau ieuenctid a phwyllgorau eco. Gall staff cefnogi a hyfforddi ddefnyddio achredu i fod o gymorth iddyn nhw ddysgu’n anffurfiol drwy nodau ac amcanion naturiol eu sefydliadau.
Mae Agored Cymru, sefydliad gwobrwyo diweddaraf Cymru, yn datblygu cyfloedd i ennill cymwysterau ac achrediadau i gyfarfod â blaenoriaethau pob dysgwr yng Nghymru ac i helpu pob math o unigolion i fanteisio ar ddysgu.
Bydd Agored Cymru’n datblygu cyfleoedd i amrywiaeth o ddysgwyr ennill cymwysterau ac achrediadau a ffurfir cwricwlwm i’w helpu i lwyddo yn eu dysgu. Bydd Agored Cymru’n gweithio’n benodol i wneud gwahaniaeth i unigolion a allai fod â, neu sydd wedi bod yn cael, trafferth gyda dysgu traddodiadol.
Bydd yr unedau o fantais i ddysgwyr, mewn ysgolion neu yn eu cymunedau, i ennill credydau y gallan nhw eu defnyddio fel blociau adeiladu i ennill cymhwyster. Bydd y rhain yn eu helpu i ddychwelyd i addysg, yn gwella eu sgiliau galwedigaethol a sylfaenol ac yn eu helpu hefyd i gael gwaith.
Mae pobl ifanc yng Nghanolfan Ieuenctid Llanfyllin ym Mhowys wedi bod yn gweithio ers dros flwyddyn i ennill achrediad, gan drafod â’u cyfoedion a’r staff y cyfeiriad y dylai’r grŵp ei ddilyn.
Mae Ruby Dunn, 12 mlwydd oed, o Lanfyllin, yn teimlo bod cael rhan mewn penderfynu pa weithgareddau y mae’r grŵp yn ei wneud yn golygu bod staff y ganolfan a’r gymuned yn eu gwerthfawrogi fwy.
Meddai “Rwy’n teimlo’n fwy fel aelod o’r gymuned gan fod pobl yn gofyn ein barn ac yn gwrando ar ein syniadau. Yn bendant mae wedi gwella sut y mae pethau’n gweithio yn y grŵp ieuenctid. Rwy’n teimlo fel pe byddai’r staff a ninnau’n deall ein gilydd yn arbennig o dda ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth siarad am yr hyn sy’n bwysig i ni.”
Mae Martin ‘Dux’ Duckers, gweithiwr ieuenctid ardal Gwasanaeth Ieuenctid Powys, wedi gweld y grŵp yn tyfu ers rhoi rhan i bobl ifanc mewn penderfyniadau. Mae o’r farn fod y profiad yn rhoi mwy na dim ond budd cymdeithasol i’r bobl ifanc sy’n gweithio tuag ato.
“Mae’r gwasanaeth ieuenctid yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc hynny sy’n well ganddyn nhw ddysgu’n anffurfiol ddatblygu eu portffolio a sicrhau bod eu CV yn llawn o gymwysterau diddorol, a fydd o fantais iddyn nhw yn y dyfodol”, meddai Dux.
Ychwanegodd “Rydyn ni wastad wedi gwerthfawrogi barn pobl ifanc ynghylch sut mae pethau’n cael eu gwneud – galluogi, nid arwain, y mae oedolion. Mae gwneud y broses yn un ffurfiol gydag achrediadau wedi ein hannog i chwilio am brofiadau ehangach i’r grŵp, mwy na thripiau yma ac acw, rydym wedi eu cael i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau Llywodraeth y Cynulliad sy’n effeithio ar bobl ifanc a phlant ledled Cymru.”
Drwy ddarparu cymhwysterau dysgu hyblyg i ddysgwyr yng Nghymru, mae Agored Cymru’n ymateb i agenda addysgu a hyfforddi genedlaethol a rhanbarthol, gan weithio’n agos â Llywodraeth y Cynulliad a’r Cynghorau Sgiliau Sectorau.
Gellir cynnwys achrediad cyfranogiad pobl ifanc hefyd ym Magloriaeth Cymru ac mae’n cydfynd â strategaeth llwybr dysgu 14 – 19 Llywodraeth y Cynulliad.
Meddai Prif Weithredwr Agored Cymru, Janet Barlow: “Mae anghenion a blaenoriaethau Cymru a dysgwyr Cymru’n wahanol ac felly mae’n rhaid i ni baratoi cymwysterau sy’n adlewyrchu’r gwahaniaethau hynny.
“Rydym wedi teilwra cymwysterau a fydd yn cyd-fynd â phob agwedd o gwricwlwm unigryw Cymru ac mae cymhwyster Cyfranogiad Pobl Ifanc yn ehngraifft wych o’n hymroddiad i ddysgu hyblyg yng Nghymru. “






