T: 02920 646 840

E: info@workingwordpr.com

English
working word
public relations marketing online pr events public affairs tradin
  • hafan
  • amdanom ni
    • Yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni...
    • newyddion
    • ein gwasanaethau
      • cysylltiadau cyhoeddus
        • cyngor PR strategol
        • gwasanaethau cysylltiadau cyfryngau
        • hyfforddiant cyfryngau
        • cyfathrebu mewn argyfwng
        • cyfathrebu staff neu gymunedol
        • ysgrifennu copi a golygu
        • nawdd
      • marchnata
        • strategaeth marchnata
        • hysbysebu
        • marchnata ar-lein
        • marchnata sms/mms
        • cynnyrch hyrwyddo
        • cylchlythyrau
        • llenyddiaeth gorfforaethol
        • cynnwys fideo
      • PR ar-lein
        • gwefannau
        • PR digidol
        • cyfryngau cymdeithasol
        • enw da ar-lein
        • cymhwysiadau ffôn deallus
        • rheoli blog
        • cynnwys fideo
      • digwyddiadau
        • materion cyhoeddus
          • dylunio
            • brandio
            • cylchlythyrau
            • llenyddiaeth gorfforaethol
            • offer swyddfa
            • cardiau busnes
            • cynnyrch hyrwyddo
        • ein cleientiaid
          • Celfyddydau
            • Corfforaethol a Busnes
              • Addysg
                • Amgylcheddol
                  • Iechyd a Gofal
                    • Cynhyrchu
                      • Nid er elw
                        • Twristiaeth a Lletygarwch
                        • ein tîm
                        • astudiaethau achos
                        • cysylltu â ni
                        • blog
                        • swyddi

                        18/05/10

                        Bait wedi bachu S4C gyda brand Stwnsh

                        Mae’r darlledwr Cymraeg, S4C, ar y cyd gyda Boomerang, wedi comisiynu stiwdio graffig byw Bait i frandio’r gwasanaeth newydd i blant, sef Stwnsh.

                        Wedi’i lansio ym mis Mai i dargedu plant o 7-13 oed, Stwnsh yw ail ran strategaeth S4C i ehangu a chryfhau ei wasanaeth i blant o bob oed. Mae’r cydweithio diweddaraf rhwng Bait, cwmni o Gaerdydd, ac S4C yn dilyn ail-frandio diweddar Cyw, sef y gwasanaeth i blant cyn oedran ysgol.

                        Mae hunaniaeth newydd Stwnsh yn dangos nifer o gymeriadau gwrthgyferbyniol wedi’u cyfuno â gwahanol wrthrychau mewn ffordd anrhagweladwy a chyffrous i greu cyfres o ganlyniadau annisgwyl.

                        Ymysg yr uchafbwyntiau y mae clipiau gwallt a ffyrc sglodion sy’n peri i geir ffrwydro, sychwyr gwallt yn chwythu’n ddarnau a llifeiriant o laeth yn caledu yn yr awyr.  

                        Yn sylwebu ar y brandio, meddai Cyfarwyddwr Creadigol Bait, Paul Nicholas: “Ystyr stwnsh yw ‘malu a chymysgu rhywbeth neu bethau’ ac felly roeddem eisiau delwedd o hunaniaeth oedd yn nodedig am ei gyfuniadau annisgwyl. Buom yn gweithio gyda gwrthrychau a delweddau sydd ddim fel rheol yn mynd gyda’i gilydd er mwyn creu canlyniad cwbl annisgwyliadwy i herio a denu’r gwylwyr. 

                        “Roedd yn bwysig creu rhywbeth fyddai’n weledol gyffrous i’n helpu i gydied yn yr ystod oedran a dargedwyd gan gynnal safon hunaniaeth weledol sianel S4C trwodd a thro, ac mae hyn yn sicr wedi’i gyflawni.”

                        Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Bait, Owain Elidir: “Daw’r gwaith gydag  S4C ar ddiwedd cyfnod cyffrous iawn i ni, gan ein bod wedi gweithio’n glos gydag MTV ar ffilmiau hyrwyddo i’w sianel MTV Shows a chyda phrif ganwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys, ar effeithiau gweledol ar gyfer ei ffilm nodwedd ‘Seperado!’. 

                        "Mae’r cwmni’n tyfu o fewn y farchnad raffig symudol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ar brosiectau sy’n greadigol yr un mor heriol o bob cwr o’r DU yn y dyfodol.”

                        Bookmark and Share

                        Back to newyddion list
                        Archives
                        2012 > February 2011 > August 2010 > September 2010 > June 2010 > May 2009 > September 2009 > July 2009 > May 2009 > April 2009 > March 2009 > February 2009 > January 2008 > November 2008 > October