01/09/09

Ymlaen â'r Sioe!S4C yn lansio ymgyrch genedlaethol i helpu trigolion gyda'r newid digidol

Mae S4C yn gwahodd pobl Cymru i ymuno â'r daith sgiliau syrcas ddyfeisgar er mwyn dysgu mwy am y newid digidol.

Mae taith, rhad ag am ddim, Ymlaen â'r Sioe! gaiff ei arwain gan rai o sêr Cymru yn cychwyn ei siwrne o gwmpas y wlad ar Fedi'r 1af.  

Caiff y daith ei lansio yn ardal Abertawe i helpu pobl i ddeall y prif newidiadau sydd ar fin taro'r tonfeddi.

Un o hoff gyflwynwyr Cymru a chyflwynydd Wedi 7, Angharad Mair, fydd yn cychwyn y digwyddiadau yn ardal Abertawe. 

Bydd y daith yn ymweld â Gerddi Sgwâr y Castell rhwng 12 a 2.30 o'r gloch ar ddydd Mawrth 1af o Fedi, a Pharc Margam, Port Talbot rhwng 12 a 2.30 o'r gloch ar ddydd Mercher 2il o Fedi. Soniwch am Ymlaen â'r Sioe! wrth fynedfa Margam er mwyn cael mynd i mewn am ddim!

Caiff gweithdai eu cynnal bob dydd rhwng dydd Iau 3ydd o Fedi a dydd Llun y 7fed o  Fedi mewn sawl lle yn ardal Abertawe a Chastell Nedd.

Mae'r lansiad yn digwydd cyn y 9fed o Fedi, 2009 sef y dyddiad pwysig pan fydd rhaid ail-diwnio Freeview ledled Cymru, a'r un dyddiad pan fydd ardal trosglwyddydd Kilvey Hill yn newid.

Bydd perfformiadau am ddim gydag aelodau o grŵp syrcas adnabyddus NoFit State Circus, yn cyflwyno gwybodaeth allweddol i bobl leol am y newid. Yn y cyfamser, bydd gweithdai sgiliau syrcas yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd gael tro ar sgìl syrcas ei hunain - wedi'r cyfan, os allwch ddysgu jyglo, bydd newid i ddigidol yn hawdd!

Mae'r newid digidol yn golygu newidiadau mawr i S4C. Ar y funud, mae rhaglenni Cymraeg yn cael eu darlledu ochr yn ochr â rhaglenni Saesneg Channel 4. Ar ôl y newid digidol, bydd S4C yn gyfan gwbl Gymraeg a chaiff cynnyrch Channel 4 ei ddarlledu ar wahân.

Mae wynebau cyfarwydd eraill o S4C yn cymryd rhan yn y rhaglen gan gynnwys y cwis feistr a'r gohebydd pêl-droed, Morgan Jones, y digrifwr Tudur Morgan a'r cyflwynwyr Sarra Elgan ac Alex Jones.

Bydd ymgyrch deledu, gyda sêr S4C a'u sgiliau syrcas, hefyd yn cael ei darlledu trwy gydol cyfnod y newid.

Dywedodd Tim Hartley, Pennaeth Materion Corfforedig S4C: "Rydym yn awyddus i bobl sy'n byw yn ardal trosglwyddydd Kilvey Hill dderbyn yr wybodaeth fwyaf cyflawn a diweddar am y newid digidol sydd ar fin digwydd, fel y gallant ddal ati i fwynhau pob un o'u hoff raglenni ar S4C.

"Mae cyfnod y newid digidol yn her unigryw i S4C. Ein nod yn ystod y broses gymhleth hon yw cadw teyrngarwch ein cynulleidfa graidd trwy ddarparu cynnyrch amrywiol, gwreiddiol, dyfeisgar, deniadol ac o safon uchel".

Aeth ymlaen: "Trwy roi cyfle i bobl leol ddysgu sgiliau syrcas, rydym am ddangos iddynt mor hawdd fydd newid i ddigidol os ydynt yn gallu dysgu sgìl syrcas anodd".