02/07/09

Sêr yn cefnogi bechgyn Cymru i ddarllen

Ymunodd sêr blaenllaw o fyd rygbi, pêl-droed, pop a theledu â John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, yn Stadiwm y Mileniwm heddiw (2 Gorffennaf) i gefnogi ymgyrch i gael bechgyn Cymru i ddarllen gystal â merched.

 

Ymunodd yr eiconau o fyd  chwaraeon a'r diwydiant cerdd a theledu i helpu i danio dychymyg bechgyn am ddarllen a chau'r bwlch llythrennedd gyda merched o'r un oedran.

Cafodd ugeiniau o fechgyn o bob rhan o Gymru a fu'n gweithio'n galed i wella eu sgiliau darllen ac ysgrifennu mewn misoedd diweddar eu gwobrwyo drwy gyfarfod gyda sêr yn cynnwys y chwaraewyr rygbi rhyngwladol Ryan Jones a Tom Shanklin, ffefryn tîm pêl-droed Dinas Caerdydd Joe Ledley a'r cerddor amlwg Stuart Cable.

Cynhelir y digwyddiad proffil uchel wrth i Lywodraeth Cynulliad Cymru nodi pwynt canol y rhaglen Cymru'n Un, ac mae'n un o gyfres o 24 digwyddiad, un ar gyfer pob mis o'r rhaglen hyd yma.

Ymunodd y sêr enwog â'r bechgyn a'u hathrawon am ddiwrnod arbennig o ddathlu dan y teitl ‘Darllen yn Well', sy'n rhan o ymgyrch ‘Darllenwch Filiwn o Eiriau Gyda'ch Gilydd yng Nghymru'. Cynlluniwyd yr ymgyrch i wella sgiliau llythrennedd ymysg bechgyn rhwng 9-14 oed, ac fe'i trefnwyd gan Sgiliau Sylfaenol Cymru, rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dengys tystiolaeth fod bechgyn 9-14 oed yn nodweddiadol yn dechrau llusgo ar ôl merched o'r un oedran mewn llythrennedd, ac nad ydynt yn cyrraedd yr un lefel â hwy mewn llawer o achosion. Mae hyn yn naturiol yn effeithio ar eu cyrhaeddiad mewn pynciau eraill. Cynlluniwyd yr ymgyrch i annog bechgyn i ddarllen mwy ac i wella eu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu yn ystod y cyfnod pwysig hwn o'u datblygiad.

Cyflwynodd y sêr rygbi a phêl-droed, ynghyd â Stuart Cable, dystysgrifau a gynlluniwyd yn arbennig i'r bechgyn y bernid iddynt fod wedi gweithio'n neilltuol o galed i godi eu cyrhaeddiad darllen dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Fel rhan o'r ymgyrch, a lansiwyd gyda chynhadledd bwysig yng Nghaerdydd fis Hydref diwethaf, rhoddodd Sgiliau Sylfaenol Cymru amrywiaeth o adnoddau ystafell dosbarth, posteri, gweithdai hyfforddiant a chyngor i athrawon o bob rhan o Gymru i'w helpu i ymrwymo bechgyn i ddarllen.

Cafodd yr adnoddau hyn, ynghyd â chyllid gan Sgiliau Sylfaenol Cymru, eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i ddatblygu amrywiaeth o gynlluniau i annog bechgyn i ddarllen mwy. Roedd bechgyn ac athrawon o lawer o'r ysgolion hyn yn bresennol heddiw i dderbyn cydnabyddiaeth o'u llwyddiant.

Y cyflwynydd teledu Jason Mohammad oedd yn arwain digwyddiadau'r dydd a gychwynnodd gyda pherfformiad o sgiliau syrcas blaengar. Bu arlunydd portreadau proffesiynol yn tynnu cartwns o'r bechgyn.

Bu'r storïwr plant Michael Harvey yn ennyn diddordeb y plant gyda'i arddull naratif egniol a thechnegau cyfranogiad cynulleidfa, gyda dewis eang o straeon rhyngwladol.

Cwblhawyd y gweithgareddau gan daith gyda thywysydd o amgylch y stadiwm, gweithdy jyglo a gweithdy yn helpu bechgyn i greu eu rapiau eu hunain.

Dywedodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a'r siaradwr gwadd: "Mae'r bwlch llythrennedd rhwng bechgyn a merched wedi bodoli ym mhob rhan o Brydain ers peth amser. Mae'n peri pryder ac mae'n hollbwysig ein bod yn tanio diddordeb bechgyn a dechrau gwneud i'r bwlch hwnnw ddiflannu.

"Gwnaethom hi'n glir yn Cymru'n Un mai ein gweledigaeth yw cymdeithas lle mae dysgu drwy gydol oes yn norm, lle mae pobl Cymru wrthi'n weithgar yn ennill gwybodaeth a sgiliau newydd o'u plentyndod i'w henoed. Rydym yn ymroddedig i'r nod yma ac mae'r digwyddiad hwn heddiw, mewn partneriaeth gyda sêr chwaraeon a cherddoriaeth Cymru, yn dangos yr ystod eang o waith da sy'n digwydd ledled Cymru i ddal dychymyg bechgyn."

"Fodd bynnag, yn bwysicaf oll mae heddiw yn dathlu'r ymdrechion sylweddol a roddodd bechgyn o bob rhan o Gymru i wella eu sgiliau darllen ac ysgrifennu. Mae manteision y sgiliau hyn yn anfesuradwy; byddant yn allweddol i agor llawer o ddrysau yn y dyfodol, i addysg, cyflogaeth a hyd yn oed fyd gwahanol drwy lyfr da!"

Dywedodd Ryan Jones, un o'r llu o sêr o Gymru a ddangosir yn yr ymgyrch bosteri ‘Darllen Go Iawn yn Darllen': "Rwy'n falch iawn i fod yma heddiw i helpu i wobrwyo rhai o'r bechgyn sydd wedi gweithio mor galed i wella eu darllen.

"Mae rhai bechgyn yn credu nad yw darllen yn cŵl ac rydym eisiau newid hynny drwy gymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae'n bwysig fod bechgyn sy'n llusgo gyda'u darllen yn cael eu helpu a'u canmol pan fyddant yn gwneud cynnydd.

"Llongyfarchiadau i'r holl fechgyn sydd wedi cael eu cydnabod heddiw, daliwch ato. Wedi'r cyfan, mae dynion go iawn yn darllen!"