20/05/09

Asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus yng Nghaerdydd yn galw ar arbenigwyr llysieuol lleol i'w helpu â'u her i fynd heb gig

Mae asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd wedi gosod her i'w hun i fynd heb gig ar gyfer Wythnos Genedlaethol y Llysieuwyr (rhwng Mai 18 a 24) mewn ymdrech i ddod yn gwmni iachach a mwy gwyrdd.

Gofynnodd Working Word PR i arbenigwyr bwyd llysieuol yn y caffi Trade Street gerllaw eu helpu nhw i roi eu penderfyniad i fynd heb fyrgyr cig eidion a stêc ar brawf. Mae'r caffi, sydd wedi ennill gwobrau, yn cael ei redeg gan y cwmni dysgu seiliedig ar waith, Hyfforddiant ACT. Mae'n cynnig nifer o seigiau llysieuol ac iach sy'n defnyddio cynnyrch lleol ac sy'n cael eu mwynhau gan gannoedd o bobl leol bob dydd.

Penderfynodd staff yn Working Word y bydden nhw'n derbyn yr her o ddod yn llysieuwyr am yr wythnos ar ôl dysgu sut gall ffordd o fyw heb gig wella'u hiechyd a'r amgylchedd.

Yn ogystal â chynnwys llai o fraster anifeiliaid, sy'n gallu cyfrannu at ffordd iachach o fyw, gall diet llysieuol hefyd helpu i leihau maint y llygredd yn yr atmosffer. Yn 2006, daeth menter y Cenhedloedd Unedig i'r casgliad bod y diwydiant da byw yn un o'r ddau neu dri phrif gyfrannwr mwyaf sylweddol at y problemau amgylcheddol mwyaf difrifol.

Yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth, bu tîm Working Word, sy'n cynnwys 13 o bobl, yn ymweld â'r caffi yng Nghaerdydd i fwynhau cinio heb gig a chael cyngor oddi wrth brif gogydd y caffi, Martin Jones, ar sut i greu seigiau llysieuol syml yn y cartref sy'n tynnu dŵr o'r dannedd.

Meddai Amy Chase, cynorthwyydd cyfrifon yn Working Word: "Pan glywais i'n gyntaf am y syniad o fod yn llysieuwr am wythnos, roeddwn i'n eithaf gyndyn o roi cynnig arni oherwydd roeddwn i'n meddwl y buaswn i wirioneddol yn gweld colli cig. Ond gan i Martin fy nghyflwyno i rai ryseitiau newydd a blasus, a dangos sut i ddefnyddio llysiau tymhorol, fel asbaragws, i wneud seigiau danteithiol, dydw i ddim wedi gweld colli cig o gwbl. Rydw i hefyd wedi teimlo'n ddaionus iawn ynglŷn â lleihau fy ôl troed carbon!"

Wythnos Genedlaethol y Llysieuwyr yw'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth flynyddol sy'n hybu bwyd llysieuol ysbrydoledig, a buddion ffordd o fyw heb gig. Mae'r Gymdeithas Lysieuol wedi bod yn dathlu'r Wythnos er 1992, a bellach mae'n ddigwyddiad sydd wedi'i hen sefydlu ac mae croeso i bawb, yn amrywio o fusnesau bach i gorfforaethau mawr, ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion, ymuno â'r ymgyrch.

Yn ôl arolwg newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd o fwy na 3,000 o oedolion, cafwyd bod tri y cant o'r ymatebwyr yn llysieuwyr "llwyr", a bod pump y cant ychwanegol yn hawlio'u bod yn rhannol llysieuol, lle nad ydynt yn bwyta rhai mathau o gig a physgod.

Meddai Martin: "Gyda mwy a mwy o bobl yn dewis mabwysiadu ffordd lysieuol o fyw am amrywiol resymau, boed i wella'u hiechyd neu'r amgylchedd, mae'n bwysig ein bod ni fel busnes yn ymateb i'r anghenion hyn. Gan hynny, rydw i a fy nhîm wedi paratoi amrywiaeth o seigiau brecwast a chinio iach a danteithiol y mae cannoedd o gwsmeriaid yn eu mwynhau bob dydd."