T: 02920 646 840

E: info@workingwordpr.com

English
working word
public relations marketing online pr events public affairs tradin
  • hafan
  • amdanom ni
    • amdanom ni
      • Yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni...
      • newyddion
      • ein gwasanaethau
        • cysylltiadau cyhoeddus
          • cyngor PR strategol
          • gwasanaethau cysylltiadau cyfryngau
          • hyfforddiant cyfryngau
          • cyfathrebu mewn argyfwng
          • cyfathrebu staff neu gymunedol
          • ysgrifennu copi a golygu
          • nawdd
        • marchnata
          • strategaeth marchnata
          • hysbysebu
          • marchnata ar-lein
          • marchnata sms/mms
          • cynnyrch hyrwyddo
          • cylchlythyrau
          • llenyddiaeth gorfforaethol
          • cynnwys fideo
        • PR ar-lein
          • gwefannau
          • PR digidol
          • cyfryngau cymdeithasol
          • enw da ar-lein
          • cymhwysiadau ffôn deallus
          • rheoli blog
          • cynnwys fideo
        • digwyddiadau
          • materion cyhoeddus
            • dylunio
              • brandio
              • cylchlythyrau
              • llenyddiaeth gorfforaethol
              • offer swyddfa
              • cardiau busnes
              • cynnyrch hyrwyddo
          • ein cleientiaid
            • Celfyddydau
              • Corfforaethol a Busnes
                • Addysg
                  • Amgylcheddol
                    • Iechyd a Gofal
                      • Cynhyrchu
                        • Nid er elw
                          • Twristiaeth a Lletygarwch
                          • ein tîm
                          • astudiaethau achos
                          • cysylltu â ni
                          • blog
                          • swyddi

                          13/05/09

                          Grŵp SCS yn ennill contract Wembley City gwerth £340 mil

                          Mae contract gwerth £340 mil i weithio ar y datblygiad newydd, Wembley City, wedi'i ddyfarnu i Grŵp SCS, sef un o gyflenwyr systemau awyru a rheoli adeiladau a datrysiadau rheoli mwg mwyaf blaenllaw y DU.

                           

                          Mae Wembley City yn ddatblygiad tir proffil uchel 85 erw o amgylch Stadiwm eiconig Wembley, ac mae wedi'i ddylunio i greu ardal breswyl ac adloniant fywiog. Mae'r prosiect, sy'n cael ei adeiladu gan y datblygwr blaenllaw Quintain Estates Developments, â'i bryd ar drawsnewid yr ardal yn un o gyfeiriadau mwyaf disglair a chyffrous y brifddinas.

                          Fel rhan o'i gontract, bydd Grŵp SCS, sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd a chyfleuster cynhyrchu o'r radd flaenaf yn Dorset, yn darparu 15 o siafftau rheoli mwg mecanyddol i wasanaethu un bloc preswyl sydd â phedwar craidd, yn cynnwys 234 o fflatiau.

                          Bydd y Grŵp yn darparu chwe ffan jet a dwy brif ffan echdynnu ar gyfer maes parcio tanddaearol sy'n gwasanaethu'r fflatiau, a bydd hefyd yn darparu paneli rheoli ac awtomeiddio a fydd yn gweithredu'r siafftau mecanyddol a'r ffaniau jet.

                          Meddai Ben Graves, peiriannydd prosiect Grŵp SCS:

                          "Mae Wembley City yn un o ddatblygiadau pwysicaf y DU, ac rydyn ni wrth ein bodd o fod yn rhan ohono. Mae ein harbenigedd fel darparwr datrysiadau ar gyfer pob agwedd ar awyru a rheoli tân yn golygu ein bod ni'n siop-un-stop yn y bôn.

                          "Rydyn ni'n darparu datrysiadau awyru, rheoli mwg a rheoli ac awtomeiddio gan gynnwys cwblhau gwaith modelu dynameg hylif cyfrifiannol (CFD). Mae modelu CFD yn caniatáu i ni ddadansoddi symudiad gwres a mwg, dangos hyn ar gyfrifiadur ac arddangos sut mae ein datrysiadau'n mynd i'r afael â'r naill beth a'r llall. Trwy ddefnyddio siafftiau mecanyddol, rydyn ni wedi gallu helpu'r datblygwyr eiddo, Quintain, a John Sisk and Son i wneud cymaint o defnydd â phosibl o'r gwagle ym mhob fflat, gan gadael mwy o le i fyw i'r preswylwyr a gwneud y fflatiau'n fwy ddeniadol i ddarpar brynwyr," ychwanegodd.

                          Mae Grŵp SCS wedi meithrin perthynas weithio gref dros sawl blwyddyn â'r contractwr mecanyddol a thrydanol blaenllaw Briggs & Forrester (MEP) Ltd yn Northampton, sydd wedi dyfarnu'r contract iddyn nhw.

                          Meddai Brian Goodenough, o Briggs & Forrester:

                          "Mae hwn yn brosiect mawr a fydd yn trawsnewid ardal Wembley. Mae'n hanfodol cyflawni'r safonau uchaf ar gyfer holl elfennau'r prosiect, ac fe wnaethon ni ddewis SCS oherwydd eu bod nhw wedi profi eu hunain mewn prosiectau pwysig eraill gyda ni yn y gorffennol."

                          Mae datblygwyr Wembley City, sef Quintain, yn dweud ei bod yn argoeli'n dda y bydd yn un o brif gyrchfannau newydd Llundain. Yn y dyfodol, fe fydd yn brolio'r unig uwchfarchnad siopau ffatri o fewn yr M25 yn ogystal ag un o gyfadeilau sinema mwyaf y DU, ac yn buddio o siopau a bwytai, a gwesty Hilton International â'i ganolfan fusnes ei hun.

                          I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.groupscs.co.uk  

                          Bookmark and Share

                          Back to newyddion list
                          Archives
                          2011 > August 2010 > September 2010 > June 2010 > May 2009 > September 2009 > July 2009 > May 2009 > April 2009 > March 2009 > February 2009 > January 2008 > November 2008 > October