06/05/09

Rhaid i dwf yng Nghymru ar ôl y dirwasgiad fod yn llawer cryfach na chynt - meddai adroddiad blaengar ar swyddi a sgiliau

Dywed adroddiad blaengar fod yn rhaid i sector preifat Cymru dyfu'n gryfach nag a wnaeth ers cenedlaethau os yw'r genedl i sicrhau adferiad iawn ar ôl y dirwasgiad a dod yn gyfartal yn economaidd â gweddill y Deyrnas Unedig.

Geilw'r adroddiad, "Cymru: Gwlad sy'n Gweithio" ar Lywodraeth y Cynulliad i roi'r flaenoriaeth uchaf bosibl i drawsnewid economi Cymru a chanolbwyntio ei pholisïau sgiliau ar borthi ‘sector preifat deinamig', gyda phwyslais neilltuol ar ddatblygu pobl fedrus ar gyfer diwydiannau twf penodol yn dilyn y dirwasgiad.

Mae'r adroddiad yn dadlau fod angen integreiddio amrywiol bolisïau cyhoeddus ar gyfer sgiliau, swyddi a datblygu busnes ymhellach gyda'i gilydd, a bod angen i wahanol adrannau llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol gynllunio ar y cyd mewn ‘ymagwedd Llywodraeth-gyfan' er mwyn dod drwy'r argyfwng presennol a sicrhau'r trawsnewid sydd ei angen.

Yr adroddiad yw'r cyntaf i'w baratoi gan Fwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Cymru, corff a sefydlwyd y llynedd i roi llais cryfach i gyflogwyr wrth greu polisi cyhoeddus, i gynghori gweinidogion ar swyddi a sgiliau ac i helpu Cymru i ddatblygu economi sgil-uchel.

Dywedodd fod Uwch-gynadleddau Economaidd Cymru, a gynhaliwyd mewn ymateb i'r dirwasgiad, wedi creu model newydd pwysig o gydweithredu sy'n rhaid iddo barhau a thyfu.

Wrth lansio'r adroddiad heddiw (6 Mai), dywedodd Syr Adrian Webb, Cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru: "Mae'n rhaid i Gymru ddod o'r dirwasgiad ar duedd llawer cryfach ar i fyny nag o'r blaen. Er yr holl waith caled a wnaed, bu'r economi'n tanberfformio'n ddifrifol o gymharu ag economi'r Deyrnas Unedig am ddegawdau; roedd yn perfformio ar lefel na all ac na ddylai gael ei ystyried yn dderbyniol. Mae angen trawsnewid sylfaenol os yw amcanion economaidd y Llywodraeth i gael eu cyflawni".

Dywedodd y bu gan Gymru yn draddodiadol sector cyhoeddus llawer mwy na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond bod angen i'r fantol yn awr symud yn helaeth tuag at dwf yn y sector preifat i greu swyddi sydd gymaint o'u hangen. Ymhellach, rhybuddiodd fod effaith yr argyfwng presennol ar gyllid y llywodraeth yn debygol o gyfyngu creu swyddi yn y sector cyhoeddus am flynyddoedd lawer.

Cyflwynodd Syr Adran, cyn is-ganghellor Prifysgol Morgannwg, adroddiad ac argymhellion y Bwrdd fore heddiw i Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, a John Griffiths, y Dirprwy Weinidog Sgiliau.

Dywed y Bwrdd, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o ddiwydiant preifat, undebau llafur, y sector cyhoeddus a'r byd economaidd, ei bod yn hanfodol fod busnesau yng Nghymru yn dod yn fwy uchelgeisiol am dwf a bod Cymru'n dod yn fan lle mae busnesau mawr eisiau lleoli eu pencadlysoedd a'u cyfleusterau ymchwil, ac nid dim ond eu gweithgareddau cangen.

Mae'r adroddiad yn dadlau, er bod gan y sector preifat ôl allweddol, mai dim ond o'r sector preifat y daw swyddi go iawn yn dilyn y dirwasgiad. Fel canlyniad rhaid targedu buddsoddiad cyhoeddus mewn sgiliau ar ddiwydiannau fydd yn trawsnewid economi Cymru. "Nid oes pwynt cronni sgiliau a chymwysterau os nad oes yw'r economi eu hangen ac yn eu defnyddio."

Galwodd adroddiad cyntaf Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru am  ‘bolisi deuol' fydd yn rhoi'r sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr eu hangen ar gyfer twf a mynd i'r afael â diffyg sgiliau a bwlch sgiliau gwaith difrifol Cymru.

Geilw am fwy o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat yn ymchwil a datblygu Cymru a mwy o drosglwyddo gwybodaeth o addysg uwch i'r sector masnachol. Ynghyd â hyn dylai fod mwy o gefnogaeth i godi sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth er mwyn annog a darparu mwy o reolwyr cwmni i fynd am dwf.

Yn nhermau sgiliau sylfaenol a sgiliau gwaith, dywed y ddogfen fod 63% o gyflogwyr Cymru'n credu fod ysgolion a cholegau'n methu cyflenwi'r farchnad gyda digon o bobl ifanc ‘parod am swydd'. Mae hyn yn cymharu gyda dim ond 48% o gyflogwyr yn yr Alban, 49% yn Lloegr a 50% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'n ychwanegu y dylai rhoi sgiliau gwaith i ddisgyblion ddod yn genadwri ganolog ym mhob rhan o'r system addysg. Er enghraifft mae'n dweud "dylai llwyddiant wrth feithrin sgiliau gwaith, yn cynnwys yr agweddau cywir, fod mor bwysig â'r gyfran o TGAU A* - C y maent yn eu hennill."

Mae'r adroddiad yn dadlau fod angen i ysgolion a cholegau roi mwy o statws a chefnogaeth i athrawon gyda sgiliau arbenigol i helpu pobl ifanc gyda phroblemau llythrennedd ac y dylai fod mwy o hyfforddiant i fynd i'r afael â phrinder tiwtoriaid sgiliau sylfaenol ar gyfer oedolion.

Dywedodd Syr Adrian: "Mae'n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad yrru'r agenda yma'n galed oherwydd mae cyflogwyr yn ein rhybuddio y bydd cost uchel mewn cyfle coll os na awn i'r afael â'r broblem sgiliau sylfaenol cyn gynted ag sydd modd."

Er y pwysau y mae'r dirwasgiad presennol yn ei roi ar bwrs y wlad, mae adroddiad y Bwrdd yn rhybuddio Llywodraeth y Cynulliad yn erbyn cwtogi ar fuddsoddiad sgiliau. Mae'n dadlau'n neilltuol y dylai arian fod ar gael i ddiogelu prentisiaethau oherwydd y byddai dileu swyddi prentisiaid yn arwain at golled sylweddol o sgiliau i'r economi ar gyfer y dyfodol.

Wrth gefnogi ei alwad am ymagwedd ‘Llywodraeth-gyfan' at drawsnewid economaidd, mae'r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau yn gwneud chwe argymhelliad allweddol i Weinidogion:

 

  • Gweithredu fel mater o frys i ddileu diffyg sgiliau sylfaenol Cymru
  • Cyllid i ysgogi ymchwil, arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth
  • Gweithredu i hybu sgiliau rheolaeth ac arweinyddiaeth
  • Mwy o hyblygrwydd Gymru i ddatblygu ei pholisïau cyflogaeth ei hun
  • Creu mentrau sgiliau a chyflogaeth sydd wedi eu targedu'n fwy at anghenion penodol yn yr economi
  • Cynnydd cyffredinol mewn cyllid ar gyfer datblygu sgiliau yn ystod y dirwasgiad.

Caiff yr adroddiad ei ystyried gan is-bwyllgor cabinet y Cynulliad ar 1 Mehefin.

Gwybodaeth bellach gan Eoghan Mortell/Mari Waddington 029 2064 6840 neu 07977 555116 eoghan.mortell@workingwordpr.com

I gael mwy o wybodaeth ar Fwrdd Sgiliau a Chyflgoaeth Cymru, gweler y wefan: www.learningobservatory.com/wales-employment-skills-board-wesb/