13/04/09

Ceginau'n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith dynion

Er mai rhywbeth i famau a gwragedd y genedl yn unig fu'r gegin Brydeinig yn draddodiadol, mae'n prysur ddod yn ystafell fwyfwy llawn testosteron yn ôl arolwg newydd.

Mae'r arolwg barn o 2,500 o bobl gan y manwerthwr ceginau blaenllaw, Sigma 3, yn dangos bod pedwar o bob deg dyn yn treulio o leiaf awr yn y gegin bob dydd, a bod chwarter yn treulio mwy na dwy awr yno.

Er mai merched sy'n bennaf gyfrifol am goginio mewn mwy na thri chwarter o geginau, mae'n ystafell sy'n dechrau denu mwy a mwy o ddynion, diolch i gogyddion enwog gwrywaidd fel Jamie Oliver a Gordon Ramsay, sy'n eu hysbrydoli i wisgo'u ffedogau.

Yn ôl Paula Morris, rheolwr marchnata Sigma 3, sef cwmni sydd wedi bod wrthi'n dylunio, gweithgynhyrchu a gwerthu ceginau er 1975, mae'r farchnad dynion sengl yn dwyn elw cynyddol:

"Mae dynion nawr yn falch o frolio'u ceginau â'u teclynnau clyfar yn debyg i sut maen nhw wedi brolio'u ceir erioed. Mae ceginau'n dod yn fwyfwy canolog i'r cartref, ac mae dynion yn fodlon buddsoddi symiau sylweddol mewn ystafell sy'n wirioneddol drawiadol ac sy'n gwneud argraff ar westeion."

Mae arolwg Sigma 3, ‘Cegin y dyfodol', yn cadarnhau hyn gan ddangos bod pedwar o bob deg dyn am gael mwy o declynnau yn eu ceginau nag erioed o'r blaen.

Mae'r teclynnau amlgyfrwng diweddaraf oll ar frig pob rhestr dymuniadau, ac mae ceginau'n golygu mwy nag ystafell lle mae dynion yn coginio'u hoff seigiau; maen nhw hefyd yn ganolfannau adloniant integredig.

Mae mwy nag un o bob deg dyn yn trachwantu am gael teclyn amlgyfrwng fel teledu neu chwaraewr MP3 wedi'u hymgorffori yn y gegin, tra bo un o bob pump yn dangos eu tueddiadau gwyrdd ac yn rhoi cyfarpar ynni effeithlon a biniau ailgylchu ar eu rhestr dymuniadau.

Mae eitemau eraill sy'n boblogaidd ymhlith dynion yn cynnwys oergelloedd sy'n dosbarthu rhew (15%) a hidlyddion dŵr integredig mewn tapiau (10%).

Mae Paula Morris yn rhagweld y bydd technoleg glyfar yn dod yn rhan fwyfwy safonol yn y gegin wrywaidd nodweddiadol:

"Mae'n wir bod bechgyn yn hoff o'u teganau. Enghraifft berffaith o declyn sydd wedi'i ddylunio i apelio at ddynion prysur yw oergell sy'n cynnwys sgrin ryngrwyd uwch ben ei drysau, gyda system sy'n darllen codau bar er mwyn cadw cofnod o lefelau stoc ac archebu bwyd.

"Mae hyn yn golygu na fyddan nhw'n rhedeg allan o laeth bellach oherwydd, pan mae cynnyrch yn mynd yn isel, mae'n ei ychwanegu at restr siopa ar-lein yn awtomatig. Dyma'r teclyn arbed amser gorau erioed ac rydyn ni'n rhagweld y bydd dewiniaeth uwch-dechnoleg yn dod yn fwyfwy cyffredin."

Heblaw am effaith weladwy'r teganau i fechgyn, mae'r elfennau dylunio sy'n apelio at gwsmeriaid gwrywaidd yn cynnwys defnyddio gwagle'n ddoeth, cynnal a chadw hawdd a llinellau glân. Meddai Paula:

"Mae barau brecwast yn boblogaidd ymhlith y rheiny sy'n bwyta ar frys yn aml, yn enwedig gan ei bod yn annhebygol bod ardal fwyta ffurfiol i'w chael mewn tŷ dyn sengl. Hefyd, mae dynion yn cofleidio datrysiadau storio mewnol clyfar sy'n cadw'r arwynebau'n ddilanastr."

Meddai Paula i gloi:

"Mae'n rhaid i'r gegin wrywaidd berffaith fod yn drawiadol, ac mae dynion yn chwilio mwy a mwy am rywbeth sydd rhywfaint y tu hwnt i'r arferol a fydd yn gwneud argraff ar eu ffrindiau. Er hynny, mae'n rhaid iddi hefyd fod yn weithredol ac mae ymarferoldeb yn hollbwysig. Yn y pen draw, fel sy'n wir am gymaint o bethau eraill mewn bywyd, fel ceir a chariadon, mae'n rhaid i'r gegin wneud beth mae i fod i'w wneud ac edrych yn dda."