08/04/09
Hyfforddeion Adeiladu yng Nghaerdydd yn Achub y Chwarae
Hyfforddeion Adeiladu yng Nghaerdydd yn Achub y Chwarae
Dywedodd pennaeth ysgol yng Nghaerdydd ei bod wrth ei bodd pan wnaeth grŵp o hyfforddeion adeiladu gynnig adeiladu chwaraedy newydd i'w disgyblion ar ôl i'r gwynt ddifrodi'r hen un.
Daeth yr hyfforddeion o Academi Sgiliau ACT i'r adwy ar ôl clywed bod y gwynt wedi chwythu chwaraedy pren Ysgol Pwll Coch drosodd ac nad oedd modd ei ddefnyddio o'r herwydd. Roedd y gysgodfa bren yn rhan annatod o weithgareddau Cyfnod Sylfaen yr ysgol, ac roedd disgyblion yn ei defnyddio'n rheolaidd ar gyfer gweithgareddau fel gwisgo i fyny a chwarae rôl.
Y Cyfnod Sylfaen yw strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysgu a dysgu plant rhwng tri a saith oed. Mae wedi'i seilio ar yr egwyddor ‘dysgu drwy wneud', gyda phlant yn ennill profiadau trwy chwarae a chyfranogi ymarferol, yn hytrach na dulliau dysgu traddodiadol.
Gwnaeth hyfforddeion Academi Sgiliau ACT, sy'n astudio mewn canolfan hyfforddi o'r radd flaenaf ar Heol Hadfield, gynllunio ac adeiladu'r chwaraedy brics newydd eu hunain dan gyfarwyddyd eu tiwtoriaid.
Meddai Anna Roberts, pennaeth Ysgol Pwll Coch: "Roedd pawb wedi'u siomi'n fawr pan gafodd yr hen chwaraedy ei ddifrodi, gan bod y plantos bach yn dibynnu arno fel rhan o'u gweithgareddau Cyfnod Sylfaen. Bydden nhw'n chwarae pob math o gemau ‘cymryd arni' ynddo, a oedd o fudd mawr i'w dysgu.
"Yn ffodus, mae'r ACT wedi camu i'r adwy ac adeiladu chwaraedy newydd sbon inni sy'n wych ac sy'n siŵr o wrthsefyll unrhyw dywydd. Rydyn ni'n wirioneddol wrth ein bodd ag ef!"
Meddai Steve Briggs, hyfforddwr yn Academi Sgiliau ACT: "Fe wnaethon ni sylweddoli pa mor bwysig oedd y chwaraedy hwn i addysg y disgyblion yn Ysgol Pwll Coch, felly gwnaethon ni benderfynu rhoi help llaw iddyn nhw. Mae gwneud hyn wedi bod o fudd i bawb ohonon ni, oherwydd mae wedi rhoi profiad ymarferol gwerthfawr dros ben i'r hyfforddeion o'r Academi Sgiliau yn ogystal â'r buddion i'r disgyblion."
Cyflwynwyd y Cyfnod Sylfaen fesul cam ar gyfer plant meithrinfa Ysgol Pwll Coch fis Medi 2008.
Meddai Jane Hutt, Gweinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Roeddwn i wrth fy modd o glywed bod hyfforddeion adeiladu ACT wedi helpu i adfer y chwaraedy yn Ysgol Pwll Coch a oedd yn cael ei ddefnyddio gan blant yr ysgol feithrin fel rhan o'u gweithgareddau Cyfnod Sylfaen. Mae'r Cyfnod Sylfaen wedi dod yn agwedd werthfawr ar addysg blynyddoedd cynnar ac rwy'n edrych ymlaen at y tair blynedd nesaf pan fydd y cwricwlwm arloesol hwn, sy'n torri tir newydd, ar gael i blant hyd at saith oed."






