06/04/09

Cwmni Cyfrifeg Gwent yn Ymuno â Phrif Rwydwaith Cenedlaethol

Cwmni Cyfrifeg Gwent yn Ymuno â Phrif Rwydwaith Cenedlaethol

Cwmni cyfrifeg siartredig blaenllaw Gwent, Peacheys, yw'r practis cyntaf yn Ne Cymru i ymuno â'r grŵp cyfrifeg mawreddog, UHY Hacker Young.

Bellach, mae'r cwmni sydd wedi'i hen sefydlu, ac sy'n cyflogi mwy na 40 o staff mewn swyddfeydd yng Nghasnewydd a'r Fenni, hefyd yn dod yn rhan annibynnol ond annatod o rwydwaith rhyngwladol (UHY International) sy'n rhychwantu 211 o swyddfeydd ledled 72 gwlad, gan gynnwys 18 o swyddfeydd yn y DU.

Mae'r cytundeb, y'i cadarnhawyd yr wythnos hon, yn golygu y bydd Peacheys, sydd eisoes yn un o'r busnesau cyfrifeg mwyaf blaenllaw yn ardal Gwent, yn gallu ehangu ystod ei arbenigedd ar gyfer cleientiaid presennol a gwasanaethu sbectrwm ehangach o gleientiaid yng Nghymru a thu hwnt.

Dyma'r cam diweddaraf mewn strategaeth twf sylweddol ar gyfer y practis sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 eleni. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi dod yn fusnes corfforedig ac wedi symud i swyddfeydd newydd uchel eu proffil yn yr ardal glan dŵr sydd wedi'i hadnewyddu yng Nghasnewydd.

Yn y dyfodol, UHY Peacheys fydd yr enw ar y busnes, sy'n dynodi ei fod wedi dod yn rhan o fusnes cyfrifeg sydd ymhlith yr 20 ar y brig yn y DU, a'i fod yn gallu manteisio ar arbenigedd hyd at 90 o bartneriaid a 450 aelod o staff proffesiynol, tra'i fod yn cynnal ei wreiddiau lleol ar yr un pryd. Mae cwmnïau sy'n aelodau o UHY yn cyflogi cyfanswm o 6,300 o staff yn fyd-eang.

Meddai Partner Rheoli Peacheys, Paul Byett: "Mae gan UHY enw da iawn yn y sector cyfrifeg, ac rydyn ni'n ffyddiog y bydd ymuno â'r rhwydwaith parchus hwn yn rhoi hwb sylweddol i'r busnes ac yn darparu buddion amlwg i gleientiaid presennol a chleientiaid yn y dyfodol."

Bydd y cyswllt yn golygu y bydd sgiliau arbenigol o fannau eraill yn y grŵp ar gael i'r busnes yng Ngwent, ac yn rhoi'r cyfle iddo ddefnyddio'i feysydd arbenigedd ei hun i wasanaethu cleientiaid eraill UHY ledled y DU.

Ychwanegodd Mr Byett: "Rydyn ni'n teimlo y byddwn ni nawr yn gallu cystadlu ar yr un lefel â'r cwmnïau cyfrifeg mawr eraill sy'n gweithredu ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol.

"Mae ymuno â rhwydwaith cenedlaethol yn caniatáu inni barhau i fod yn fusnes yng Ngwent sydd â gwybodaeth leol, gadarn a pherthnasoedd agos â chleientiaid, ond sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau arbenigol lle bo angen. Mae gan UHY swyddfeydd yn Llundain, Manceinion a Glasgow, yn ogystal â rhwydwaith o dimau hynod brofiadol ledled y wlad, felly byddwn ni mewn sefyllfa dda i wasanaethu cleientiaid sydd â nifer o safleoedd yn y DU a chynnig gwasanaethau arbenigol nad ydyn ni wedi'u cynnig o'r blaen," esboniodd.

Meddai Steve Sulley, Cyfarwyddwr Marchnata Peacheys, "Y cysylltiad hwn â UHY yw'r cam nesaf naturiol gan ei fod yn ein gwneud yn bractis sydd ymhlith yr 20 ar y brig yn y DU ac yn ehangu'r cynnyrch rydyn ni'n ei gynnig. Byddwn ni'n ceisio cynyddu ein cyfran ni o'r farchnad o ganlyniad i'r datblygiad hwn, a mynd â'r practis i farchnadoedd newydd."

Mae cleientiaid presennol UHY Peacheys yn cynnwys llawer o fusnesau a sefydliadau mwyaf adnabyddus ardal Gwent.

Meddai Howard Spencer, Cadeirydd Grŵp UHY Hacker Young: "Mae'n bleser mawr gennym ni groesawu UHY Peacheys i'r grŵp, ac rydyn ni'n awyddus i'w harbenigedd fod ar gael inni. Bydd y cwmni newydd hwn yn helpu i ehangu ôl-troed daearyddol UHY Hacker Young yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n cael budd o ddealltwriaeth UHY Peacheys o'r farchnad leol."

Ynglŷn â UHY Hacker Young:

Mae gan UHY Hacker Young incwm ffioedd gwerth mwy na £43.4m, 18 o swyddfeydd, 86 o bartneriaid a mwy na 450 o staff proffesiynol. Cafwyd cynnydd o 10% yn nhrosiant UHY Hacker Young yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac o ganlyniad maent yn un o'r cwmnïau cyfrifeg cyflymaf eu twf ymhlith yr 20 ar y brig yn y DU. UHY Hacker Young yw'r aelod a sefydlodd UHY, ac mae ei rwydwaith rhyngwladol o swyddfeydd i'w weld ym mhob canolfan ariannol fawr y byd. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn http://www.uhy-uk.com/