20/03/09
Gwobr i Diwtor o Gaerdydd sydd wedi dod â’r Gymraeg i Gartrefi oedolion
Mae tiwtor, sydd wedi gweddnewid y ffordd y mae oedolion yng Nghaerdydd yn dysgu Cymraeg, wedi cael ei chydnabod trwy ennill gwobr trwy Gymru gyfan.
Mae'r uwch-diwtor Anna Tiplady wedi llunio sawl cwrs newydd ac arloesol
ers iddi ddechrau gweithio yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a
Bro Morgannwg ddwy flynedd yn ôl. Ymhlith ei phrif lwyddiannau roedd
arwain tîm a ddatblygodd gwrs Cymraeg ar-lein sy'n hawdd cael gafael
arno i ddechreuwyr.
Yr wythnos hon, enillodd Anna, sy'n 34 oed ac yn dod o Abertawe, deitl
Tiwtor Cymraeg y Flwyddyn yng Ngwobrau NIACE Dysgu Cymru 2008 ar gyfer
Ysbrydoli Tiwtoriaid a Mentoriaid Oedolion.
Mae'r sawl sydd wedi dilyn y cwrs ar-lein, a elwir yn gwrs Wlpan
cyfunol, wedi'i ganmol yn fawr gan ei fod yn rhoi'r cyfle iddyn nhw
astudio wrth eu cyfrifiaduron eu hunain, yn eu hamser eu hunain ac yn
ôl eu cyflymdra eu hunain. Dyma'r tro cyntaf y mae cwrs o'r math hwn
wedi cael ei gynnig i oedolion sy'n dysgu.
Datblygwyd y cwrs ar ddechrau 2008, ac oherwydd ei fod mor boblogaidd
cafodd pum cwrs eu cynnal o fewn deuddeg mis. Mae bwriad i gynnal tri o
gyrsiau eraill yn 2009 yn ogystal â chwrs lefel uwch.
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fynd i'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion,
sydd ym Mhrifysgol Caerdydd, bob wythnos er mwyn ymwneud â'u
cyd-fyfyrwyr a'u tiwtoriaid a gwella eu sgiliau llafar Cymraeg. Mae
cyfle hefyd i siarad gyda'r dysgwyr yn ystod y llwyth o weithgareddau
sy'n cael eu trefnu bob mis gan staff y ganolfan. Ymhlith y
gweithgareddau mae cwisiau tafarn, teithiau cerdded prydferth ac
ymweliadau ag amgueddfeydd ac â lleoedd eraill sydd o ddiddordeb
diwylliannol.
Rhoddodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, y wobr i Anna
gan ddweud: "Mae tiwtoriaid a mentoriaid oedolion ymhlith y bobl fwyaf
ysbrydoledig posibl ac maen nhw wir yn haeddu'r gydnabyddiaeth y maen
nhw'n ei chael gan y gwobrau mawreddog hyn sy'n uchel eu parch."
Meddai Anna, a oedd yn arfer gweithio yng Ngholeg Gorseinon: "Rwy'n
hapus dros ben fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae fy swydd mor bwysig
imi a'r elfen orau o addysgu yw dod â'r pwnc yn fyw i'ch myfyrwyr a'i
gwneud yn fwy perthnasol iddyn nhw, ac wedyn eu gweld yn cael
canlyniadau cadarnhaol.
"Mae pobl o bob math o gefndiroedd yn dilyn y cwrs Wlpan cyfunol. Mae
wedi denu gweithwyr proffesiynol, rhieni plant ifanc a phobl hŷn. Mae
rhai pobl nad oes ganddyn nhw lawer o amser sbâr, ond sy'n benderfynol
o ddysgu Cymraeg, yn mewngofnodi ganol nos hyd yn oed! Mae'n fendigedig
ein bod wedi meithrin cymaint o frwdfrydedd.
"Rwy'n hynod o falch fy mod i wedi llwyddo i helpu pobl i ddysgu
Cymraeg mewn ffordd mor arloesol sy'n defnyddio'r technolegau modern
diweddaraf."
I gael rhagor o wybodaeth am Gymraeg i Oedolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cysylltwch â'r Ganolfan ar 02920 874 710 neu http://www.learnwelsh.co.uk/
Sefydliad annibynnol, cenedlaethol ar gyfer addysg i oedolion yng Nghymru yw NIACE Dysgu Cymru. Nod Gwobrau Ysbrydoli 2009 ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu yw tynnu sylw at lwyddiannau pobl o ran addysg i oedolion a fydd yn y pen draw yn ysbrydoli pobl eraill i fynd yn ôl i'r byd addysg.






