T: 02920 646 840

E: info@workingwordpr.com

English
working word
public relations marketing online pr events public affairs tradin
  • hafan
  • amdanom ni
    • amdanom ni
      • Yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni...
      • newyddion
      • ein gwasanaethau
        • cysylltiadau cyhoeddus
          • cyngor PR strategol
          • gwasanaethau cysylltiadau cyfryngau
          • hyfforddiant cyfryngau
          • cyfathrebu mewn argyfwng
          • cyfathrebu staff neu gymunedol
          • ysgrifennu copi a golygu
          • nawdd
        • marchnata
          • strategaeth marchnata
          • hysbysebu
          • marchnata ar-lein
          • marchnata sms/mms
          • cynnyrch hyrwyddo
          • cylchlythyrau
          • llenyddiaeth gorfforaethol
          • cynnwys fideo
        • PR ar-lein
          • gwefannau
          • PR digidol
          • cyfryngau cymdeithasol
          • enw da ar-lein
          • cymhwysiadau ffôn deallus
          • rheoli blog
          • cynnwys fideo
        • digwyddiadau
          • materion cyhoeddus
            • dylunio
              • brandio
              • cylchlythyrau
              • llenyddiaeth gorfforaethol
              • offer swyddfa
              • cardiau busnes
              • cynnyrch hyrwyddo
          • ein cleientiaid
            • Celfyddydau
              • Corfforaethol a Busnes
                • Addysg
                  • Amgylcheddol
                    • Iechyd a Gofal
                      • Cynhyrchu
                        • Nid er elw
                          • Twristiaeth a Lletygarwch
                          • ein tîm
                          • astudiaethau achos
                          • cysylltu â ni
                          • blog
                          • swyddi

                          10/03/09

                          ‘Gwireddu breuddwyd' i enillwyr pecyn busnes gwerth £75k

                          Yn ôl dwy fam sengl o dde Cymru sydd wedi ennill cystadleuaeth i redeg eu busnes arlwyo eu hunain mewn pecyn gwobrau gwerth £75k, dyma ‘wireddu breuddwyd'.

                          Dwy ffrind o Gaerdydd yw Akita Duggan, 33 oed a Paula O'Donovan, 40 oed, a drechodd gystadleuwyr cryf o blith mwy na 150 o ymgeiswyr i ennill y gystadleuaeth ‘Coginio Llwyddiant' y tybir ei bod y cyntaf o'i bath yn y DU.

                          Yn ôl disgrifiad trefnwyr y gystadleuaeth, sef Costain, Menter Cymru ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (APCC), roedd hwn yn gyfle oes, a bydd yr enillwyr lwcus yn cael y cyfle i redeg eu busnes arlwyo eu hunain yn gweini bwyd i hyd at 250 o weithwyr bob dydd ar safle cynllun Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys, sef y cynllun adeiladu priffordd mwyaf sydd ar y gweill yn y DU.

                          Mae Akita a Paula wedi wynebu cyfnodau anodd, fel llawer o bobl y mae'r dirywiad economaidd wedi effeithio arnyn nhw. Collodd Paula ei swydd arlwyo wedi 12 mlynedd y llynedd oherwydd y dirwasgiad. Pan gyhoeddodd y beirniaid eu bod wedi ennill, dechreuodd y ddwy wylo o lawenydd.

                          Meddai Akita: "Roedd yn foment mor emosiynol nes inni ddechrau wylo; allen ni ddim credu'r peth. Roedd yna lawer o gystadleuwyr cryf iawn ac roedden ni'n gwybod nad ni oedd y ffefrynnau i ennill. Ers inni weld y stori yn y South Wales Echo, a gwneud cais i gymryd rhan, mae popeth wedi digwydd mor sydyn; bu'r cyfan ychydig fel corwynt."

                          Ychwanegodd Paula: "Mae'r ddwy ohonom ni wedi cael siomedigaethau i ddelio â nhw, felly roedd cael gwybod ein bod ni wedi ennill yn gwireddu breuddwyd. Roedd bron yn ormod inni, ac fe gollodd y beirniaid hyd yn oed ddeigryn neu ddau.  Mae'n gyfle gwych, ac rydyn ni'n benderfynol o weithio'n galed i ddarparu gwasanaeth ardderchog a rhedeg busnes llwyddiannus a chynaliadwy."

                          Mae'r ddwy fenyw wedi gweithio yn y busnes arlwyo a bwytai, Paula fel arlwywraig ac Akita ym maes gwerthu a marchnata. Mae'r ddwy o'r farn y bydd eu sgiliau cyflenwol yn eu helpu i wneud i'r busnes lwyddo.

                          Meddai Phil Cooper, rheolwr gyfarwyddwr yr asiantaeth cefnogi busnes flaenllaw, Menter Cymru, a'r llefarydd ar ran y bartneriaeth: "Mae Akita a Paula wedi gwneud yn eithriadol o dda. Roedd y gystadleuaeth yn frwd ond roedd y beirniaid yn teimlo bod ganddyn nhw'r sgiliau, y profiad a'r priodoleddau personol iawn ar gyfer y rôl.

                          "Mae'n nhw'n wynebu llawer o heriau, ond maen nhw'n alluog, yn daer ac yn benderfynol, a byddan nhw'n derbyn pecyn rhagorol o gefnogaeth, cyngor a hyfforddiant a fydd yn rhoi cychwyn gwych i'r busnes, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni," ychwanegodd.

                          Ar hyn o bryd, mae'r partneriaid busnes, sydd wedi rhoi'r enw Gwasanaethau Arlwyo A-Kapitul ar eu cwmni, sef anagram o'u henwau, yn paratoi fersiwn derfynol eu cynllun busnes. Maen nhw hefyd wedi cwrdd â rheolwyr banc Barclays, sydd hefyd yn cefnogi'r ymgyrch ‘Coginio Llwyddiant', yn ogystal â chyflenwyr posibl cyn lansio'r busnes yn ddiweddarach y mis hwn.

                          Meddai Paula, sy'n fam i Karleigh, 21 oed a Dane, 17 oed: "Byddwn ni'n darparu bwyd o ansawdd da wedi'i baratoi'n ffres i gwsmeriaid, a bwydlen amrywiol ag opsiynau iach yn ogystal â dewisiadau mwy traddodiadol fel brecwast Cymreig llawn a brechdanau bacwn."

                          Meddai Akita, sy'n fam i Georgia, 13 oed: "Rydyn ni eisiau i'r busnes fod yn rhan o'r gymuned a byddwn ni'n ceisio gweithio gyda chyflenwyr lleol. Yn y tymor hir, fe hoffem ni gynnig lleoliadau profiad gwaith, cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc sy'n ystyried dilyn gyrfa yn y diwydiant arlwyo."""

                          Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd wedi comisiynu'r ffordd osgoi yn Nhafarn y Groes, Pont-y-clun. Er y bydd y ffordd osgoi wedi'i chwblhau yn nhymor yr hydref 2010, ac y bydd y safle a'r uned arlwyo yn cau, y gobaith yw y bydd Akita a Paula wedi datblygu'r busnes ac wedi ehangu i adeiladau newydd gan greu dyfodol tymor hir diogel i Wasanaethau Arlwyo A-Kapitul.

                          Meddai'r cynghorydd Andrew Morgan, aelod cabinet dros drafnidiaeth a gofal cwsmeriaid Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Yn y tymor byr, mae'r ffordd osgoi yn amlwg wedi creu nifer o swyddi, ac rwy'n falch o weld bod un o'n hamcanion, sef cynyddu cyfleoedd cyflogaeth lleol, yn cael ei wireddu trwy'r fenter gyffrous hon."

                          Bookmark and Share

                          Back to newyddion list
                          Archives
                          2011 > August 2010 > September 2010 > June 2010 > May 2009 > September 2009 > July 2009 > May 2009 > April 2009 > March 2009 > February 2009 > January 2008 > November 2008 > October