17/02/09
Sut ydych chi’n datrys problem fel datblygu Gweithlu Hyblyg? Seren ‘Sound of Music’ yn lansio prosiect cydraddoldeb rhywiol
Heddiw (Dydd Mawrth Chwefror 10, 2009) fe lansiodd Seren ‘Sound of Music', Connie Fisher, brosiect gwerth £12.5m wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru â'r nod o fynd i'r afael â'r anawsterau sy'n wynebu merched wrth symud ymlaen yn y gweithlu.
Bydd prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg yn helpu merched i gyflawni eu potensial llawn trwy hybu cydraddoldeb rhywiol mewn cyflogaeth a chefnogi dyrchafiad mewn gyrfa. Fe fydd hefyd yn cynorthwyo cyflogwyr i gadw staff medrus a sicrhau cymaint o ddawn â phosibl yn eu gweithlu.
Gan gynorthwyo hyd at 2,800 o ferched yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd trwy eu hyfforddi a'u mentora, nod y prosiect yw eu helpu nhw i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd a sicrhau cyfleoedd iddyn nhw gael swyddi sy'n galw am sgiliau uwch. Bydd cynllun lwfans hyfforddi ar gael hefyd i ferched sydd ag anghenion hyfforddi ar gyfer swydd benodol.
Bydd Cenedl Hyblyg hefyd yn helpu dros 600 o gyflogwyr trwy roi cyngor a chyfarwyddyd ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chodi ymwybyddiaeth o'r buddion a ddaw i'r busnes yn sgil gweithio hyblyg. Bydd hefyd yn hybu materion cydbwysedd gwaith a bywyd ac yn addysgu cyflogwyr ynglŷn â hyn.
Bu'r cyn weithiwr telewerthu Connie Fisher, a ddaeth yn enwog mewn cystadleuaeth talent BBC One i sicrhau rôl Maria yn sioe gerdd y West End ‘The Sound of Music', yn cymryd rhan mewn gwe-ddarllediad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd a Gwesty Cei Deganwy i ddwyn sylw at sut gellir manteisio ar dechnoleg i alluogi busnesau a merched ledled Cymru i fwynhau'r buddion niferus sy'n gysylltiedig â gweithio hyblyg.
Meddai'r seren sioe gerdd, wrth siarad yn ystod y lansiad:
"Rydw i wedi gweithio mor galed i wireddu fy mreuddwyd, a gweithio fel gweinyddes ac mewn canolfan alwadau i gynnal fy hun yn ariannol wrth imi fynd o'r naill glyweliad i'r llall. Mae gan y mwyafrif o ferched freuddwyd neu nod, yn union fel oedd gen i, a'r hyn sy'n bwysig yw cael y cyfleoedd iawn a meddu ar y sgiliau iawn i wneud yn fawr ohonyn nhw, yn ogystal â rhywfaint o ddyfalbarhad!
"Mae Cenedl Hyblyg yn rhoi'r cyfle i ferched gyflawni eu potensial, ac mae hyn yn newyddion gwych i ferched yng Nghymru."
Meddai Prif Weithredwr Chwarae Teg, Katy Chamberlain:
"Mae tystiolaeth yn dangos bod angen gwneud llawer mwy eto i wella cydraddoldeb cyfle i ferched yn y gweithlu. Trwy weithio gyda busnesau i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gynnydd, ac annog mabwysiadu gweithio hyblyg, bydd y gweithlu cyfan yn cael budd o'r prosiect, a bydd yn cyfrannu at gadw dawn, sy'n hanfodol i lwyddo yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
"Mae Connie Fisher yn fodel rôl gwych oherwydd bod miliynau lawer o bobl wedi'i gwylio hi'n brwydro yn erbyn y disgwyl i wireddu ei breuddwydion. Mae hi'n ddelfrydol i lansio prosiect a fydd nid yn unig o fudd i filoedd o ferched mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru trwy ddod â chyngor, hyfforddiant a thechnoleg ynghyd, ond hefyd yn gadael etifeddiaeth barhaol trwy alluogi merched a busnesau i gyflawni eu potensial llawn."
Mae Cenedl Hyblyg hefyd wedi sicrhau cefnogaeth y corff sy'n arwain y blaen o ran cynrychioli busnesau bach yng Nghymru. Meddai Russell Lawson, llefarydd ar ran Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru:
"Gall ymarferion gweithio hyblyg gwtogi ar gostau a helpu
i gynyddu cynhyrchiant, ac maen nhw'n arfau pwerus dros ben pan ddaw'n fater o
gadw staff a rhoi cymhelliad iddyn nhw. Gall fod yn her rheoli gweithio hyblyg, felly trwy weithio'n agos â'r
prosiect Cenedl Hyblyg, gellir rhoi help llaw hollbwysig i fusnesau bach ledled
Cymru, a gallen nhw'n wirioneddol weld y buddion."
Meddai Jane Hutt,
y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:
"Bydd Cenedl Hyblyg yn nodi newid sydyn i safle merched yn yr amgylchedd economaidd yng Nghymru. Mae gan Chwarae Teg hanes hir a llwyddiannus o hybu cyfranogiad cadarnhaol merched i economi Cymru, a bydd y prosiect arloesol a chyffrous hwn yn etifeddiaeth barhaol o arfer gorau i Gymru."
I gael mwy o wybodaeth am y Prosiect Cenedl Hyblyg, ewch i wefan Chwarae Teg, www.chwaraeteg.com/agile-nation.






