28/01/09
Y Morlu Brenhinol yn helpu myfyrwyr arlwyo yn y Gogledd i drechu heintiau yn y gegin
Heddiw (dydd Mawrth 27 Ionawr), bu Tîm Arddangos Coginio y Llynges Frenhinol a'r Morlu Brenhinol yn cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth Norofeirws Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy gynnig gwledd o gyngor ar hylendid bwyd i fyfyrwyr coleg ym Mangor.
Rhoddodd y Tîm gyngor cadarn i adran arlwyo Coleg Menai, gan gynnwys eu hatgoffa sut i olchi'u dwylo'n drylwyr cyn cyffwrdd bwyd, i geisio cadw'r Gogledd yn rhydd rhag y Norofeirws, y gwestai nad oes croeso iddo wrth yr un bwrdd bwyd.
Mae'r Norofeirws, sy'n cael ei adnabod hefyd fel y 'clefyd chwydu gaeafol', yn glefyd stumog heintus tu hwnt, sy'n effeithio ar rwng 600,000 a miliwn o bobl yn y DU bob blwyddyn. Mae'n lledaenu mewn sefyllfaoedd lle mae llawer o bobl yn ymgynnull. Mae modd dal yr haint drwy fod mewn cysylltiad â pherson sydd wedi'i heintio, cyffwrdd arwynebau neu wrthrychau sydd wedi'u heintio, neu drwy fwyd a diod sydd wedi'u heintio.
Hefyd dangosodd y Tîm i'r myfyrwyr sut mae paratoi prydau blasus a maethlon sy'n addas i swyddogion y Morlu neu'r Llynges - neu unrhyw un arall ag awch am fwyd. Hefyd, gweinwyd cyngor ar sut i gael gyrfa dda yn arlwyo i'r Llynges Frenhinol a'r Morlu Brenhinol.
Meddai Tracey Gauci, Swyddog Nyrsio ar gyfer Diogelu Iechyd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru:
"Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal Norofeirws - yn ogystal â llu o heintiau eraill - rhag lledaenu yw golchi'ch dwylo'n drylwyr ar ôl mynd i'r tŷ bach.
"Mae hyn hefyd yn berthnasol i baratoi bwyd. Efallai nad yw pobl bob amser yn golchi'u dwylo cyn cyffwrdd bwyd neu lanhau'r ardal goginio neu'r offer coginio yn drylwyr. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud hyn i atal Norofeirws."
Meddai Mike Beaton o Dîm Arddangos Coginio y Llynges Frenhinol a'r Morlu Brenhinol:
"Roedd yn bleser gennym gefnogi'r ymgyrch iechyd bwysig hon. Er bod Norofeirws yn haint cas sy'n gallu lledaenu'n hawdd, mae modd ei atal yn hawdd drwy gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y caiff bwyd ei baratoi mewn modd glân.
"Fy mhrif gyngor yw i chi gael y cynhwysion mwyaf ffres posibl, paratoi'r bwyd ar arwyneb glân a sicrhau eich bod yn golchi'ch dwylo'n drylwyr cyn ac ar ôl y broses. Wedi'r cwbl, y peth olaf rydych chi am ei weini yw'r Norofeirws."
Prif symptomau Norofeirws yw cyfog sydyn, wedyn chwydu a dolur rhydd. Y cyngor yw bod pobl sy'n ei ddal yn aros gartref ac yn osgoi dod i gysylltiad ag eraill am o leiaf 48 awr ar ôl i'r symptomau ddiflannu er mwyn osgoi ei drosglwyddo. Dylai'r rheini sy'n cael eu heintio gymryd gofal i osgoi lle mae unigolion bregus, fel ysbytai, cartrefi gofal a chartrefi nyrsio.
I gael mwy o wybodaeth am y Norofeirws, ewch i www.wales.gov.uk/health a chliciwch ar y dudalen Norofeirws, neu cysylltwch â Galw Iechyd ar 0845 4647.
DIWEDD






