T: 02920 646 840

E: info@workingwordpr.com

English
working word
public relations marketing online pr events public affairs tradin
  • hafan
  • amdanom ni
    • amdanom ni
      • Yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni...
      • newyddion
      • ein gwasanaethau
        • cysylltiadau cyhoeddus
          • cyngor PR strategol
          • gwasanaethau cysylltiadau cyfryngau
          • hyfforddiant cyfryngau
          • cyfathrebu mewn argyfwng
          • cyfathrebu staff neu gymunedol
          • ysgrifennu copi a golygu
          • nawdd
        • marchnata
          • strategaeth marchnata
          • hysbysebu
          • marchnata ar-lein
          • marchnata sms/mms
          • cynnyrch hyrwyddo
          • cylchlythyrau
          • llenyddiaeth gorfforaethol
          • cynnwys fideo
        • PR ar-lein
          • gwefannau
          • PR digidol
          • cyfryngau cymdeithasol
          • enw da ar-lein
          • cymhwysiadau ffôn deallus
          • rheoli blog
          • cynnwys fideo
        • digwyddiadau
          • materion cyhoeddus
            • dylunio
              • brandio
              • cylchlythyrau
              • llenyddiaeth gorfforaethol
              • offer swyddfa
              • cardiau busnes
              • cynnyrch hyrwyddo
          • ein cleientiaid
            • Celfyddydau
              • Corfforaethol a Busnes
                • Addysg
                  • Amgylcheddol
                    • Iechyd a Gofal
                      • Cynhyrchu
                        • Nid er elw
                          • Twristiaeth a Lletygarwch
                          • ein tîm
                          • astudiaethau achos
                          • cysylltu â ni
                          • blog
                          • swyddi

                          13/11/08

                          Prif Swyddog Meddygol Cymru wrth law i helpu trechu’r perygl o ddal Byg Chwydu’r Gaeaf

                          Heddiw, (Dydd Iau, 13 Tachwedd) lansiodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth am fyg stumog mewn ymgais i atal pobl yng Nghymru rhag dal y byg yn ystod y gaeaf eleni. Bu Dr Tony Jewell yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Evan James ym Mhontypridd i atgoffa disgyblion ac athrawon am y Norofeirws ac am bwysigrwydd hylendid dwylo da er mwyn cael gwared ar y feirws.

                          Mae'r Norofeirws, sydd hefyd yn cael ei alw yn ‘glefyd chwydu'r gaeaf', yn heintus iawn ac mae'n effeithio ar rhwng 600,000 ac 1 miliwn o bobl yn y DU bob blwyddyn. Mae'n lledaenu mewn mannau lle mae nifer o bobol yn ymgasglu, ac mae modd ei ddal drwy ddod i gysylltiad â rhywun sydd wedi'i heintio, drwy gyffwrdd ag arwynebau neu bethau sydd wedi'u halogi, neu drwy gymryd bwyd a diod sydd wedi'u halogi.

                          Y prif symptomau yw teimlad sydyn o gyfog, ac yna chwydu a dolur rhydd. Cynghorir pobl sy'n dal y feirws i aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill am o leiaf 48 awr ar ôl i'r symptomau glirio, er mwyn osgoi trosglwyddo'r feirws. Dylai'r rhai sydd wedi'u heintio osgoi yn arbennig ymweld â mannau lle mae pobl fregus yn debygol o fod, megis ysbytai, cartrefi gofal a chartrefi nyrsio.

                          Drwy gynnal ymgyrch daflenni a chysylltiadau cyhoeddus cenedlaethol, nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw tynnu sylw at fesurau atal a rheoli ymhlith y cyhoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau arlwyo a gofal iechyd.

                          Dywedodd Dr Jewell: "Un o'r dulliau mwyaf effeithiol o atal lledaeniad y Norofeirws - ynghyd â nifer o heintiau eraill - yw golchi'ch dwylo yn drwyadl ar ôl i chi ddefnyddio'r tŷ bach a sicrhau eu bod yn hollol sych. Yn aml, nid yw pobl yn golchi eu dwylo'n gywir, ac nid yw pobl yn sylweddoli gymaint o niwed y maent yn ei wneud, nid yn unig iddynt hwy eu hunain ond hefyd i eraill sydd o'u hamgylch.

                          "Y mae'r un egwyddor yn berthnasol wrth baratoi bwyd. Efallai y bydd pobl sydd ar frys yn anghofio golchi'u dwylo cyn trafod bwyd, neu'n anghofio golchi a choginio'u bwyd yn drylwyr. Yn ogystal, efallai na fyddant yn glanhau'r man lle maent yn paratoi'r bwyd neu'r offer y maent yn ei ddefnyddio yn ddigonol.

                          "Os byddai pob un ohonom yn golchi ein dwylo yn gywir ac yn cymryd gofal arbennig wrth baratoi bwyd, yna byddem yn lleihau'r risg o ledaenu'r norofeirws yn fawr."

                          Yn Ysgol Gymraeg Evan James, sy'n ysgol cyfrwng Cymraeg, soniodd Dr Jewell sut y gall golchi dwylo yn drwyadl helpu i atal heintiau rhag lledaenu.

                          Dywedodd y Pennaeth, Moyra Greaney: "Yr oeddwn yn falch iawn i weld Dr Jewell yn ein hysgol heddiw. Er bod ein plant yn cael eu hatgoffa'n aml i olchi eu dwylo ar ôl defnyddio'r tŷ bach, gwnaeth Dr Jewell roi neges y staff yn ei chyd-destun, drwy sôn wrth y plant am fyg chwydu'r gaeaf.

                          "Bellach, mae pob un ohonom yn gwybod llawer mwy am y salwch, yn gwybod sut i'w osgoi a sut i'w drin."

                          I gael rhagor o wybodaeth am y Norofeirws, ewch i www.cymru.gov.uk/iechyd neu cysylltwch â Galw Iechyd Cymru drwy ffonio 0845 4647.

                          Diwedd

                          Cysylltwch â Liz Ashton neu Leanne Bayston am Working Word PR ar 029 2048 8778 neu liz.ashton@workingwordpr.com am fwy o wybodaeth.

                          Bookmark and Share

                          Back to newyddion list
                          Archives
                          2011 > August 2010 > September 2010 > June 2010 > May 2009 > September 2009 > July 2009 > May 2009 > April 2009 > March 2009 > February 2009 > January 2008 > November 2008 > October