T: 02920 646 840

E: info@workingwordpr.com

English
working word
public relations marketing online pr events public affairs tradin
  • hafan
  • amdanom ni
    • amdanom ni
      • Yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni...
      • newyddion
      • ein gwasanaethau
        • cysylltiadau cyhoeddus
          • cyngor PR strategol
          • gwasanaethau cysylltiadau cyfryngau
          • hyfforddiant cyfryngau
          • cyfathrebu mewn argyfwng
          • cyfathrebu staff neu gymunedol
          • ysgrifennu copi a golygu
          • nawdd
        • marchnata
          • strategaeth marchnata
          • hysbysebu
          • marchnata ar-lein
          • marchnata sms/mms
          • cynnyrch hyrwyddo
          • cylchlythyrau
          • llenyddiaeth gorfforaethol
          • cynnwys fideo
        • PR ar-lein
          • gwefannau
          • PR digidol
          • cyfryngau cymdeithasol
          • enw da ar-lein
          • cymhwysiadau ffôn deallus
          • rheoli blog
          • cynnwys fideo
        • digwyddiadau
          • materion cyhoeddus
            • dylunio
              • brandio
              • cylchlythyrau
              • llenyddiaeth gorfforaethol
              • offer swyddfa
              • cardiau busnes
              • cynnyrch hyrwyddo
          • ein cleientiaid
            • Celfyddydau
              • Corfforaethol a Busnes
                • Addysg
                  • Amgylcheddol
                    • Iechyd a Gofal
                      • Cynhyrchu
                        • Nid er elw
                          • Twristiaeth a Lletygarwch
                          • ein tîm
                          • astudiaethau achos
                          • cysylltu â ni
                          • blog
                          • swyddi

                          03/11/08

                          Archfarchnad yng Nghaerdydd yn Ymuno â Chynllun i Ddefnyddio’r Gymraeg yn y Gwaith

                          Sainsburys

                          Mae archfarchnad yng Nghaerdydd wedi bod yn annog ei gwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg drwy gymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol sy'n hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

                          Ymwelodd y daith Iaith Gwaith â Sainsbury's yn Colchester Avenue ar Dachwedd 3 i dynnu sylw at fanteision defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith i fusnesau ac i bobl yn yr ardal leol.

                          Mae'r daith a gefnogir gan Sainsbury's ynghyd ag archfarchnadoedd mawr eraill Tesco, ASDA, Waitrose, The Co-operative, Morrisons a Bridgend Deisgner Outlet yn ymweld ag archfarchnadoedd ledled Cymru drwy gydol mis Tachwedd.

                          Datblygwyd Iaith Gwaith, sy'n cael ei redeg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, er mwyn ei gwneud yn haws i bawb ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle ac i godi hyder pobl yn eu gallu i ddefnyddio'r iaith.

                          Bydd pobl sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn gyda logo Iaith Gwaith arno.

                          Cafodd siopwyr berfformiadau gan actorion proffesiynol a oedd wedi gwisgo fel swigod siarad Iaith Gwaith a oedd yn dangos manteision defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, megis gwasanaeth gwell i gwsmeriaid a rhoi hwb i forâl staff.

                          Dywedodd rheolwr siop Sainsbury's Dave Ball: "Rydym wrth ein bodd ein bod yn cefnogi taith Iaith Gwaith ac rydyn ni'n fwy na bodlon dangos i bobl yn ein hardal leol sut mae mabwysiadu'r cynllun wedi bod o fudd i'n staff ac i'n cwsmeriaid. Mae annog aelodau o staff i wisgo'r bathodyn Iaith Gwaith yn tanlinellu ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac adeiladu presenoldeb cryf ar draws Cymru gyfan."

                          Dywedodd Meirion Prys Jones, prif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Mae llawer o bobl yn gwybod rhywfaint o Gymraeg ond ni fydd cryn dipyn ohonynt byth yn cael y cyfle i'w defnyddio. Holl bwrpas Iaith Gwaith yw cynorthwyo pobl i greu'r cyfleoedd hynny i ddefnyddio'u Cymraeg, boed hynny yn y swyddfa, yn y banc neu wrth siopa."

                          Roedd ffigurau Cyfrifiad 2001, a ryddhawyd yn ôl ym mis Chwefror 2003, yn dangos cynnydd o tua 80,000 yn nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Roedd ffigurau a ryddhawyd ym mis Mai 2003 yn dangos bod 37.7 y cant o blant rhwng tair a 15 oed yng Nghymru yn gallu siarad yr iaith - cynnydd o 13.4 y cant ers y cyfrifiad diwethaf yn 1991. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n mynychu ysgolion Cymraeg hefyd.

                          Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, a lansiodd y Daith Iaith Gwaith yn swyddogol yng Nghaerdydd: "Bydd miloedd o bobl yn ymweld ag archfarchnadoedd yng Nghymru bob dydd felly pa le gwell i ledaenu'r neges Iaith Gwaith. Rydym yn ddiolchgar dros ben i'r holl archfarchnadoedd sy'n cymryd rhan yn y daith ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog rhagor o bobl i ystyried defnyddio'u Cymraeg yn y gwaith."

                          Fel rhan o'r ymgyrch, bydd siopwyr sy'n ymweld â lleoliadau'r daith yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth lle ceir cyfle i ennill un o bedwar gliniadur.

                           

                          DIWEDD

                          I gael gwybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â Caroline Holmes neu Liz Ashton yn Working Word PR ar 029 2048 8778 neu caroline.holmes@workingwordpr.com neu liz.ashton@workingwordpr.com

                          Bookmark and Share

                          Back to newyddion list
                          Archives
                          2011 > August 2010 > September 2010 > June 2010 > May 2009 > September 2009 > July 2009 > May 2009 > April 2009 > March 2009 > February 2009 > January 2008 > November 2008 > October