T: 02920 646 840

E: info@workingwordpr.com

English
working word
public relations marketing online pr events public affairs tradin
  • hafan
  • amdanom ni
    • amdanom ni
      • Yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni...
      • newyddion
      • ein gwasanaethau
        • cysylltiadau cyhoeddus
          • cyngor PR strategol
          • gwasanaethau cysylltiadau cyfryngau
          • hyfforddiant cyfryngau
          • cyfathrebu mewn argyfwng
          • cyfathrebu staff neu gymunedol
          • ysgrifennu copi a golygu
          • nawdd
        • marchnata
          • strategaeth marchnata
          • hysbysebu
          • marchnata ar-lein
          • marchnata sms/mms
          • cynnyrch hyrwyddo
          • cylchlythyrau
          • llenyddiaeth gorfforaethol
          • cynnwys fideo
        • PR ar-lein
          • gwefannau
          • PR digidol
          • cyfryngau cymdeithasol
          • enw da ar-lein
          • cymhwysiadau ffôn deallus
          • rheoli blog
          • cynnwys fideo
        • digwyddiadau
          • materion cyhoeddus
            • dylunio
              • brandio
              • cylchlythyrau
              • llenyddiaeth gorfforaethol
              • offer swyddfa
              • cardiau busnes
              • cynnyrch hyrwyddo
          • ein cleientiaid
            • Celfyddydau
              • Corfforaethol a Busnes
                • Addysg
                  • Amgylcheddol
                    • Iechyd a Gofal
                      • Cynhyrchu
                        • Nid er elw
                          • Twristiaeth a Lletygarwch
                          • ein tîm
                          • astudiaethau achos
                          • cysylltu â ni
                          • blog
                          • swyddi

                          13/10/08

                          Y Gweinidog yn mynd ati yn Ysgol y Barri i lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd 2009

                          Mae'r gystadleuaeth i ddod o hyd i chwech o bobl ifanc eithriadol i fod yn ‘Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd' wedi cael ei lansio heddiw gan Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.
                          Lansiodd y Gweinidog y gystadleuaeth gyda chymorth timau gwyrdd Ysgol Bro Morgannwg yn y Barri sydd â'u nod ar fod y cystadleuwyr cyntaf ym Mro Morgannwg i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
                          Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog pobl ifanc ledled y wlad i ddilyn esiampl Bro Morgannwg a chymryd rhan yn y gystadleuaeth a pherswadio ffrindiau, teuluoedd a chymunedau i wneud eu rhan a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.


                          Cafodd y Gweinidog gyfle i gyfarfod â phobl ifanc yr ysgol a dywedodd:

                          "Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae'n ddyletswydd arnom i warchod cenedlaethau'r dyfodol a gwneud popeth y gallwn i addysgu pobl am fanteision gwneud newidiadau bach i'n ffordd o fyw er mwyn ein cynorthwyo i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd."
                          "Mae disgyblion Ysgol Bro Morgannwg yn esiampl wych i bobl ifanc ar hyd a lled Cymru. Mae gan bobl ifanc rôl bwysig iawn i'w chwarae fel hyrwyddwyr ymysg grwpiau o'u cyfoedion ac ymysg eu teuluoedd a'u cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed am y syniadau a gyflwynir gan ddarpar Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd ac yn edrych ymlaen hefyd at weithio'n agos â'r chwe hyrwyddwr buddugol unwaith y cânt eu dewis."
                          Mae Ysgol Bro Morgannwg yn aelod o'r cynllun ‘eco-ysgolion' sy'n cydnabod arferion amgylcheddol mewn ysgolion. Mae'r disgyblion yn frwdfrydig ac maent yn y broses o sefydlu eco-bwyllgor i ddatblygu eu cynlluniau gwyrdd eu hunain a'r gobaith yw y byddant yn cael rhagor o effeithiau cadarnhaol ar y ffordd y mae'r ysgol yn defnyddio dŵr, trydan, gwres a chludiant.
                          Mae'r disgyblion yn croesi eu bysedd y bydd un ohonynt yn llwyddo i gael eu hurddo yn ‘Hyrwyddwr Newid Hinsawdd'.
                          I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae'r disgyblion wedi bod yn meddwl am lunio ceisiadau sy'n dangos sut y byddent yn annog eu ffrindiau, eu teuluoedd, eu hysgol neu eu cymuned i wneud newidiadau bach er mwyn lleihau eu hôl-troed carbon. Gall ceisiadau fod ar unrhyw fformat creadigol, er enghraifft erthygl papur newydd, tudalennau gwe neu gyflwyniad teledu neu radio.
                          Bydd yr Hyrwyddwyr buddugol yn treulio blwyddyn ‘yn y swydd' yn dangos sut y gall pobl gymryd camau syml, effeithiol i leihau eu hôl-troed carbon gan ganolbwyntio ar ynni, dŵr a chludiant.
                          Unwaith y caiff yr Hyrwyddwyr eu dewis, byddant yn cael amserlen brysur a fydd yn cynnwys cymryd rhan mewn taith Ewropeaidd er mwyn darganfod yr hyn sy'n cael ei wneud i leihau allyriadau carbon mewn gwledydd eraill. Hefyd, byddant yn cael cyfle i fod yn bresennol mewn digwyddiadau ledled Cymru a chyfathrebu â phobl ynghylch y camau cadarnhaol y gallant eu cymryd bob dydd i helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
                          Dywedodd y Pennaeth, y Dr Dylan Jones:
                          "Mae'r gystadleuaeth ‘Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd' yn gyfle gwych i ddisgyblion adeiladu ar y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud yma i ennyn ymwybyddiaeth amgylcheddol. Byddwn yn annog y disgyblion i gyd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gan obeithio y bydd un o'r chwe hyrwyddwr buddugol yn un o ddisgyblion Bro Morgannwg."
                          Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw berson ifanc yng Nghymru sydd rhwng 11 ac 18 oed gan gynnwys y rheini sydd mewn ysgolion uwchradd ac mewn colegau. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud y ceisiadau hyn yw 28 Tachwedd 2008. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar-lein, ewch i www.walescarbonfootprint.gov.uk.

                           

                          DIWEDD
                          Dylid anfon unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r cyfryngau at Daniel Tyte neu Sara Robinson yng nghwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Working Word ar 02920 488 778. E-bost daniel.tyte@workingwordpr.com/ sara.robinson@workingwordpr.com

                          Bookmark and Share

                          Back to newyddion list
                          Archives
                          2011 > August 2010 > September 2010 > June 2010 > May 2009 > September 2009 > July 2009 > May 2009 > April 2009 > March 2009 > February 2009 > January 2008 > November 2008 > October