Mae deall sut mae’r cyfryngau’n gweithio’n allweddol i gael y math o sylw sy’n cynyddu enw da eich sefydliad. Mae hynny’n golygu dysgu sut i ryngweithio gyda newyddiadurwyr mewn ffordd gelfydd ac adeiladol er mwyn trosglwyddo’ch neges. Trwy weithio gyda newyddiadurwyr print a darlledu, rydym yn cynnig hyfforddiant dwys ar sut i wneud y mwyaf o’ch cyswllt gyda’r cyfryngau. Byddwn yn eich hyfforddi chi neu eich prif reolwyr ar dechnegau cyfweld allweddol fydd yn helpu troi’r sefyllfaoedd mwyaf anodd neu elyniaethus yn gyfleoedd i gael sylw positif. Byddwn yn egluro sut y gallwch greu cyfleoedd gwerthfawr i ddenu sylw, na fydd ar gael i’ch cystadleuwyr, trwy gydymffurfio ag anghenion y cyfryngau eu hunain. Yn fyr, gallwn helpu troi’r cyfryngau’n ased yn hytrach nac yn rhwystr i’ch sefydliad.
|

|