Marchnata SMS/MMS 

Ni fyddai unrhyw un wedi dychmygu grym y neges destun pan ddatblygodd y rhynweithiau ffôn symudol y sianel gyfathrebu byr eithriadol hwn.
Nawr, mae grym y tecst ymhobman ac mae’r SMS diymhongar wedi dod yn sianel hyrwyddo a chyfathrebu ymarferol ynddo’i hun.
Mae natur bersonol y ffôn symudol yn golygu y gall marchnata SMS fod yn erfyn hynod bwerus. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd â’u ffonau symudol gyda nhw i bobman – gan olygu eu bod yn effeithiol wrth gyfleu negeseuon pan fo amser yn brin. Mae pobl yn tueddu i ddarllen pob neges destun y mae nhw’n dderbyn – yn wahanol i lythyrau sbwriel, spam neu hysbysebion y gellir eu hanwybyddu.Fel gweithgaredd ynddo’i hun neu ran gyfannol o ymgyrch ehangach, beth am drosglwyddo’ch ymgyrch SMS i ni gan dynnu’r cur pen o’r cyfreithiau e-fasnach a phreifatrwydd sy’n mynd law yn llaw â’r cyfrwng hwn.
Cliciwch yma am wybodaeth ar sut y gallwn eich helpu i decstio llwybr at eich llwyddiant.