Rydym yn cynnal digwyddiadau hynod broffesiynol a gafaelgar sy’n trosglwyddo negeseuon allweddol ac yn creu cysylltiadau gyda chynulleidfaoedd allweddol.
Mae Working Word yn darparu gwasanaethau rheoli digwyddiadau mewn partneriaeth â’i chwaer gwmni, Cazbah, sy’n cyflogi rhai o weithwyr proffesiynol rheoli digwyddiadau mwyaf profiadol a medrus Cymru. Gyda’n gilydd rydym wedi datblygu a llwyfannu amrediad eang o ddigwyddiadau arbennig a blaenllaw, wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd amrywiol yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac nid-am-elw. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweithio ar ddigwyddiadau adnabyddus megis cynhadledd flynyddol y Sefydliad Ewropeaidd dros Reoli Ansawdd yng Nghanolfan y Mileniwm, dathliad 20 mlynedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn y Senedd ym Mae Caerdydd, cynadleddau blaenllaw Lead On ar ddatblygu rheoli ledled Cymru, a thaith gymunedol S4C ‘Ymlaen â’r Sioe’ gyda’i thema syrcas a gafodd ei chynllunio i hysbysu cymunedau am y Newid Digidol. Yn ddiweddar, buom yn trefnu Skills Cymru 2010, sef y digwyddiad sgiliau mwyaf erioed yng Nghymru, yn Stadiwm y Mileniwm.
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth rheoli digwyddiadau, cysylltwch â ni.
|
|