Ein cleientiaid
Rydyn ni'n gwasanaethu busnesau a sefydliadau blaenllaw, uchel eu parch mewn llawer o wahanol feysydd ledled y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
![]() |
|
|
|
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydyn ni wedi cyflenwi rhaglenni cysylltiadau cyhoeddus o'r ansawdd gorau sydd wedi ennill gwobrau ledled Cymru a'r DU ar gyfer cleientiaid yn y meysydd a ganlyn:
- Dysgu a sgiliau
- Gweithgynhyrchu
- Gwasanaethau busnes
- Sefydliadau y mae'r sector cyhoeddus yn eu cefnogi
- Treftadaeth
- Yr amgylchedd
- Adwerthu
- Iechyd a Gofal
- Eiddo
- Economi a chyflogaeth
- Cyfryngau
Mae gan bob sector ei anghenion ei hun ac rydyn ni'n trafferthu ymchwilio i farchnadoedd, cynhyrchion ac amgylchiadau cleient er mwyn inni allu datblygu rhaglenni cysylltiadau cyhoeddus perthnasol sy'n wirioneddol weithio.
Mae angen i rai cleientiaid gyfathrebu â'u staff eu hunain neu â chymunedau lleol, mae angen i rai gyfathrebu â chwsmeriaid ledled y DU, tra bo angen i eraill gyfleu eu neges i'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth ac yn y sector cyhoeddus. Rydyn ni'n cynllunio ac yn cyflenwi ymgyrchoedd a rhaglenni cyfathrebu wedi'u llunio'n benodol i'r cleient sy'n sicrhau canlyniadau trwy gyrraedd y cynulleidfaoedd sy'n cyfrif.
Mae ar rai cleientiaid ein hangen ni ar gyfer rhaglenni byr, tra bo llawer wedi cael budd o gefnogaeth reolaidd Working Word PR dros sawl blwyddyn.


















