Grŵp Seren
Penodwyd Working Word PR fis Ionawr 2007 i gyflawni rhaglen strategol cysylltiadau â'r cyfryngau i gynyddu proffil Seren ac adeiladu ei enw da â rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn yr ardal leol ac yn y sector tai cymdeithasol a gofal ehangach.
Sefydlodd y tîm ‘grŵp cyfathrebu' yn cynnwys o leiaf un cynrychiolydd marchnata neu rywun cyfatebol o bob sefydliad sy'n aelod o Seren. Mae'r grŵp bellach yn cyfarfod bob mis i gynllunio gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus ac i rannu gwybodaeth â'r tîm cysylltiadau cyhoeddus.
Aeth aelodau cyswllt Working Word PR ati i roi hyfforddiant yn y cyfryngau i aelodau o'r tîm uwch reolwyr ledled Grŵp Seren, ac wedi hynny sicrhawyd cyfleoedd iddyn nhw wneud sylwadau ar faterion cyfoes oedd yn berthnasol i'w meysydd arbenigedd yng nghyfryngau'r prif ffrwd a chyfryngau eu sectorau.
Er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw gyfleoedd yn cael eu colli ar gyfer gwneud sylwadau i'r cyfryngau, cynhyrchodd Working Word ddalenni gwybodaeth ar gyfer pob sefydliad sy'n aelod, gan grynhoi pob maes arbenigedd y staff, cyfleoedd ar gyfer sylwadau arbenigol a safiad Grŵp Seren ar faterion cyfoes.
Trwy gyfres o astudiaethau achos positif, straeon newyddion, erthyglau gan arbenigwyr a chyfleoedd i wneud sylwadau, fe sicrhaodd Working Word PR le i Grŵp Seren yn rheolaidd yn ei gyfryngau targed.
Bu Working Word PR yn briffio newyddiadurwyr perthnasol yn systematig, ac adeiladwyd perthnasoedd gweithio â nhw. Mae'r newyddiadurwyr hyn nawr yn ceisio sylwadau oddi wrth Seren yn rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe sicrhaodd y tîm lawer o sylw yn y cyfryngau hefyd i gaffaeliad Seren o'r elusen camddefnyddio alcohol a sylweddau, Pen-yr-Enfys, ac i ben-blwydd sefydliad cymorth digartrefedd Solas, sef aelod arall o Seren, yn 25 oed.
Enillodd gwaith Working Word ar gyfer Seren Wobr Aur yng ngwobrau PRide CIPR Cymru ym mis Hydref 2008.








